Mae consortiwm rhyngwladol wedi cyhoeddi prosiect gwerth £1.7bn ar gyfer morlyn llanw newydd yn Abertawe a fydd yn creu miloedd o swyddi.

Bydd y prosiect ynni adnewyddadwy yn cynnwys y morlyn a thyrbinau tanddŵr yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy o’r strwythur 9.5km.

Mae’r morlyn yn rhan o gynllun ehangach Blue Eden sy’n cael ei arwain gan gwmni DST Innovations ym Mhen-y-bont ar Ogwr a nifer o bartneriaid eraill, gyda chymorth Cyngor Abertawe a Phorthladdoedd Prydeinig Cysylltiedig.

Bydd y cynllun, fydd wedi’i leoli yn ardal SA1 y ddinas, yn cael ei gyflwyno mewn tair rhan dros gyfnod o 12 o flynyddoedd.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys ffatri 60,000 metr sgwâr i greu batris ar gyfer ynni adnewyddadwy, cyfleuster batri i stori ynni adnewyddadwy’r safle ac i bweru’r safle – y cyfleuster mwyaf o’i fath yn y byd, cyfleuster solar 72,000 metr sgwâr yn arnofio i wrthsefyll effeithiau allyriadau carbon deuocsid, canolfan storio data, canolfan ymchwil y môr a newid hinsawdd o safon fyd-eang, strwythurau’n arnofio fydd yn dod yn ganolfannau diwylliannol a gwyddonol i bawb, cartrefi ar lan y môr i 5,000 o bobol ac oddeutu 150 o gartrefi eco yn arnofio ar y dŵr.

Bydd y prosiect yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 yn rhagor o swyddi ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, a daw’r cyhoeddiad ar drothwy uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow yr wythnos hon.

Ymateb

Yn ôl Tony Miles, cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr DST Innovations, “mae’r prosiect yn gyfle i greu templed i’r byd ei ddilyn, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gwneud y defnydd mwyaf o dechnolegau newydd a meddwl er mwyn datblygu nid yn unig rhywle i fyw ond i ffynnu”.

Daw’r prosiect yn dilyn trafodaethau ar sail gweledigaeth gweithgor rhanbarthol dan arweiniad Cyngor Abertawe.

“Rydym yn ymwybodol nawr yn fwy nag erioed o’r angen i ddatblygu cyflenwadau ynni adnewyddadwy i ddarparu trydan cynaladwy a fforddadwy i deuluoedd a busnesau,” meddai’r arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart.

“Bydd Blue Eden yn rhoi Abertawe a Chymru ar flaen y gad o ran arloesi mewn ynni adnewyddadwy byd-eang, gan helpu i greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda, yn torri ein hôl troed carbon yn sylweddol a chodi proffil Abertawe ymhellach ledled y byd fel lle i fuddsoddi.

Yn ôl Julie James, yr Aelod Llafur o’r Senedd tros Orllewin Abertawe, daw’r prosiect ar adeg bwysig i Gymru a’r byd.

“Bydd yn dod ag arloesedd ac ymchwil i’r blaen, miloedd o swyddi gwyrdd o safon uchel, cartrefi carbon isel gwych a digonedd o ynni adnewyddadwy,” meddai.

“Rwyf wrth fy modd o weld Abertawe a Chymru ar frig arloesi byd-eang a datgarboneiddio, fel y dylen nhw fod.”