Mae Gangs of London wedi ennill pedair gwobr BAFTA Cymru mewn seremoni ar-lein heno (nos Sul, Hydref 24).

Dyma’r 30ain tro i’r gwobrau gael eu cynnal, wrth i’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru wobrwyo rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru a chan bobol o Gymru ar gynyrchiadau’r Deyrnas Unedig.

Roedd gwobrau i Gangs of London ar gyfer Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen (Matt Flannery), Golygu (Sara Jones), Dylunio Cynhyrchu (Tom Pearce) a Sain (y tîm sain).

Roedd dwy wobr hefyd i It’s A Sin, sef y wobr Actor i Callum Scott Howells a’r wobr Awdur i Russell T Davies. Darllenwch gyfweliad gydag Andria Doherty, un o actorion y gyfres, yma.

Enillodd Rhod Gilberty wobr Cyflwynydd ar gyfer Rhod Gilbert’s Work Experience, a enillodd y wobr ar gyfer Cyfres Ffeithiol hefyd.

Enillodd The Pembrokeshire Murders y wobr Drama Deledu, ac enillodd Marc Evans y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar ei chyfer hefyd, yr wythfed tro iddo ennill yn ei yrfa.

Enillodd Morfydd Clark ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf ar gyfer Actores am ei pherfformiad yn Saint Maud. Darllenwch gyfweliad gyda Morfydd Clark yma.

Aeth y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol i Liana Stewart, a gafodd ei henwebu am y tro cyntaf, ar gyfer Black & Welsh.

Enillydd gwobr Torri Trwodd eleni yw Michael Kendrick Williams am ei rôl fel cynhyrchydd ar Britannia’s Burning: Fire on the Bridge/Britannia: Tân ar y Bont.

Enillodd Strictly Amy: Crohn’s and Me y wobr ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol.

Aeth y wobr Ffotograffiaeth: Ffeithiol i’r Tîm Camera ar gyfer Critical: Coronavirus in Intensive Care.

Enillodd Pawb a’i Farn – Black Lives Matter y wobr ar gyfer Newyddion a Materion Cyfoes.

Aeth y wobr Colur a Gwallt i Claire Pritchard-Jones ar gyfer Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse.

Enillodd Caroline McCall y wobr Gwisgoedd ar gyfer ei gwaith ar His Dark Materials.

Aeth y wobr Rhaglen Blant i Deian a Loli am y trydydd tro. Dewch i adnabod yr actorion yma.

Aeth y wobr Rhaglen Adloniant i Dolig Ysgol Ni: Maesincla; a’r wobr Ffilm Fer i The Welshman. Darllenwch gyfweliad gyda Lindsay Walker, cyfarwyddwr The Welshman yma.

Enillydd y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu yw Eternal Beauty.

 

Yr enillwyr yn llawn

ACTOR

CALLUM SCOTT HOWELLS It’s A Sin – Red Production Company / Channel 4

KEITH ALLEN The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

MARK LEWIS JONES Gangs of London – Pulse Films, SISTER / Sky Atlantic

MICHAEL SHEEN Quiz – Left Bank Pictures / ITV

 

ACTORES Noddwyd gan Urban Myth Films

ALEXANDRIA RILEY The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

ANDRIA DOHERTY It’s A Sin – Red Production Company / Channel 4

JUDI DENCH Six Minutes to Midnight – Mad as Birds/ Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema

MORFYDD CLARK Saint Maud – Escape Plan Productions / Film4 / BFI Film Fund

 

TORRI TRWODD Noddwyd gan Lywodraeth Cymru

ENLLI FYCHAN OWAIN (Cynhyrchydd) The Welshman – Ebb in Joy Pictures

JAMES PONTIN (Cyfarwyddwr) The Merthyr Mermaid – BBC Cymru Wales / BBC One Wales

MICHAEL KENDRICK WILLIAMS (Cynhyrchydd) – Britannia’s Burning: Fire on the Bridge / Britannia: Tân ar y Bont- Rondo Media / BBC One Wales / S4C

 

RHAGLEN BLANT Noddwyd gan Gyfreithwyr Hugh James

DEIAN A LOLI – Cwmni Da / S4C

JAMIE JOHNSON OUTSIDE THE BOX – Short Form Film Company / iPlayer

MABINOGI-OGI A MWY – Boom Cymru / S4C

 

DYLUNIO GWISGOEDD

CAROLINE MCCALL His Dark Materials – Bad Wolf/ BBC Studios / HBO / BBC ONE

DAWN THOMAS-MONDO The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

LUCINDA WRIGHT Six Minutes to Midnight- Mad as Birds / Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema

SARAH ARTHUR A Discovery of Witches – Bad Wolf / Sky One

 

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL Noddwyd gan Gyngor Caerdydd

HANNAH BERRYMAN Rockfield: The Studio on the Farm – ie ie productions ltd / BBC Four

LIANA STEWART Black and Welsh – ie ie Productions ltd / BBC One Wales

LUKE PAVEY Critical: Coronavirus in Intensive Care – Frank Films / BBC One Wales

NIA DRYHURST DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr – Dogma / S4C

 

CYFARWYDDWR: FFUGLEN Noddwyd gan Champagne Taittinger

ASHLEY WAY White Lines – Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix

GARETH EVANS Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

JON JONES We Hunt Together – BBC Studios / Alibi

MARC EVANS The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

 

GOLYGU Noddwyd gan Gorilla

AL EDWARDS Critical: Coronavirus in Intensive Care – Frank Films / BBC One Wales

ELEN PIERCE LEWIS White Lines – Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix

SARA JONES Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

SARA JONES His Dark Materials – Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE

 

RHAGLEN ADLONIANT Noddwyd gan Cywain, Menter a Busnes

AM DRO! – Cardiff Productions / S4C

DOLIG YSGOL NI: MAESINCLA – Darlun / S4C

PRIODAS PUM MIL – Boom Cymru / S4C

SGWRS DAN Y LLOER – KRISTOFFER HUGHES – Teledu Tinopolis / S4C

 

CYFRES FFEITHIOL Noddwyd gan Channel 4

A SPECIAL SCHOOL – Slam Media / BBC One Wales

CORNWALL: THIS FISHING LIFE – Frank Films / BBC Two

CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE – Frank Films / BBC One Wales

RHOD GILBERT’S WORK EXPEREIENCE – Zipline Media Limited / BBC One Wales

 

FFILM NODWEDD/DELEDU

ETERNAL BEAUTY – Cliff Edge Pictures, Sefydliad Ffilm Prydain, Llywodraeth Cymru / Ffilm Cymru Wales / Ymddiriedolaeth Wellcome

NUCLEAR – Yellow Nuclear

ROCKFIELD: THE STUDIO ON THE FARM – ie ie productions ltd / BBC Four

 

COLUR A GWALLT

CLAIRE WILLIAMS Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

CLAIRE PRITCHARD-JONES Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse – Hartswood Films / Sky One

JACQUELINE FOWLER His Dark Materials – Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE

 

NEWYDDION A MATERION CYFOES Noddwyd gan IJPR

CHANNEL 4 NEWS – WALES & THE COVID-19 PANDEMIC ITN Channel 4 News Wales Bureau / Channel 4

LLOFRUDDIAETH MIKE O’LEARY – ITV Cymru Wales / S4C

PAWB A’I FARN- BLACK LIVES MATTER – Teledu Tinopolis / S4C

 

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL

Y TÎM CAMERA Critical: Coronavirus in Intensive Care – Frank Films / BBC One Wales

EMILY ALMOND BARR Black and Welsh – ie ie Productions ltd / BBC One Wales

NATHAN MACKINTOSH Hidden Wales with Will Millard – Lazerbeam / Frank Films / BBC One Wales

TUDOR EVANS The Story of Welsh Art – Wildflame Productions / BBC Two Wales

 

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

BAZ IRVINE The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

JOHN CONROY Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse – Hartswood Films / Sky One

MATT FLANNERY Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

MILOS MOORE Industry – Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two

 

CYFLWYNYDD Noddwyd gan Deloitte

ELIN FFLUR yn Sgwrs Dan y Lloer – Kristoffer Hughes – Teledu Tinopolis / S4C

NATHAN BLAKE yn Wales’ Black Miners – Cardiff Productions / BBC One Wales

RHOD GILBERT yn Rhod Gilbert’s Work Experience – Zipline Media Limited / BBC One Wales

RICHARD PARKS yn Richard Parks: Can I Be Welsh & Black? – Hello Deer Productions / Silver Star Productions / ITV Cymru Wales

 

DYLUNIO CYNHYRCHU Noddwyd gan Sugar Creative

JAMES NORTH A Discovery of Witches – Bad Wolf / Sky One

TOM PEARCE Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

TOM PEARCE Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse – Hartswood Films / Sky One

 

FFILM FER

FATHER OF THE BRIDE – Deivos Films

I CHOOSE – ie ie Productions / BBC Two Wales

THE NEST – It’s My Shout / BBC Two Wales

THE WELSHMAN – Ebb in Joy Pictures

 

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL

BLACK AND WELSH – ie ie Productions / BBC One Wales

CRITICAL: CORONAVIRUS IN INTENSIVE CARE – Frank Films / BBC One Wales

RHOD GILBERT: STAND UP TO INFERTILITY – Wales & Co Media / Llanbobl Vision / BBC One Wales

STRICTLY AMY: CROHN’S AND ME – Wildflame Productions / BBC One Wales

SAIN

Y TÎM CYNHYRCHU Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

Y TÎM CYNHYRCHU His Dark Materials – Bad Wolf / BBC Studios/ HBO / BBC ONE

Y TÎM CYNHYRCHU The Pembrokeshire Murders – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

Y TÎM CYNHYRCHU Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse – Hartswood Films / Sky One

 

DRAMA DELEDU Noddwyd gan Facilities by ADF

HIS DARK MATERIALS – Bad Wolf, BBC Studios / HBO / BBC ONE

INDUSTRY- Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two

THE PEMBROKESHIRE MURDERS – World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV

UN BORE MERCHER/KEEPING FAITH – Vox Pictures / S4C / BBC One Wales

 

AWDUR Noddwyd gan Decade 10

BARRY JONES Rybish – Cwmni Da / S4C

GARETH EVANS, MATT FLANNERY Gangs of London – Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic

RUSSELL T DAVIES It’s A Sin – Red Production Company / Channel 4

 

Gwobrwyo ffilm a theledu yng Nghymru

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn ddigidol eleni

Cymru’n “diflannu” yn ddiwylliannol yn sgil y system gyfryngau a chyfathrebu bresennol

Enwebiadau Gwobrau BAFTA Cymru yn “ymgais wan i’n cynnwys ac i’n prynu”, meddai aelod newydd o Fwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol