Mae yna ddau newydd am fod yn actio’r cymeriadau adnabyddus ar S4C y Dolig hwn…

Mi geisiodd 550 o blant am y prif rannau yn Deian a Loli, y gyfres boblogaidd i blant a enillodd wobr BAFTA eleni.

Ifan Henri o Borthaethwy ym Môn, a Lleucu Owain o Gerrigydrudion, Sir Conwy, sydd wedi cael y gwaith o actio’r efeilliaid direidus.