Drwy ddirgel ffyrdd dw i’n chwarter Sais – mae Mam yn Saesnes ond yn hanner Cymraes, felly dw i’n meddwl bod y màths yn gywir pan dw i’n dweud chwarter. Dw i ddim yn ymfalchïo nac yn cywilyddu yn hynny. Dw i’n chwarter Eidalwr hefyd a dw i’n hynod falch o hynny, ond mae hynny’n lot mwy secsi na chwarter Sais beth bynnag, tydi?