Mae gŵr Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn ymprydio am yr ail waith o ganlyniad i “fethiant” y llywodraeth i fynd i’r afael â’i hachos.

Dechreuodd Richard Ratcliffe ymprydio ger y Swyddfa Dramor yn Llundain, ac mae’n bwriadu cysgu mewn pabell yn y nos.

Daw hyn ar ôl i’w wraig golli ei hapêl ddiweddaraf yn erbyn dedfryd o garchar yn Iran.

Er nad yw hi wedi’i hanfon i’r carchar eto, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd hi’n mynd i garchar neu’n gorfod aros dan glo yng nghartref ei theulu a gwisgo tag.

Opsiwn arall yw y gallai orfod aros i glywed ei thynged.

Bu hi yn y ddalfa ers 2016 ar ôl i Lywodraeth Iran ei chyhuddo o ysbïo a chynllwynio yn eu herbyn.

Roedd hi’n mynd â’i merch Gabriella i ymweld â theulu pan gafodd ei harestio a’i dedfrydu i bum mlynedd o garchar, gan dreulio pedair blynedd dan glo a blwyddyn dan glo yng nghartre’r teulu.

Yn ôl ei theulu, dywedodd yr awdurdodau wrthi ei bod hi’n cael ei chadw yn y ddalfa am nad yw’r Deyrnas Unedig wedi talu £400m o ddyled.

Mae Richard Ratcliffe wedi beirniadu Llywodraeth Prydain a’r prif weinidog Boris Johnson am y sefyllfa, ac mae’n galw arnyn nhw i “gymryd cyfrifoldeb”.

Mae’r Swyddfa Dramor yn galw am adael Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn rhydd.