Mae menywod yn Ffrainc yn tynnu sylw mewn ymgyrch ar-lein at agwedd yr heddlu at y rhai sy’n adrodd wrth iddyn nhw am dreisio ac ymosodiadau rhyw.

Cafodd un ddynes oedd wedi cael ei threisio ei holi gan yr heddlu beth roedd hi’n ei wisgo ar y pryd a pham nad oedd hi wedi brwydro’n galetach yn erbyn yr ymosodiad.

Bu’n rhaid i ddynes arall ail-greu’r ymosodiad er mwyn i’r heddlu gael gweld beth oedd wedi digwydd iddi.

Mae’r achosion hyn yn enghreifftiau o’r miloedd o ymosodiadau mae menywod wedi’u dioddef ac sy’n rhan o ymgyrch newydd i dynnu sylw at arfer yr heddlu o feio menywod sy’n dioddef ymosodiadau neu o fethu â mynd i’r afael â’u cwynion.

Ymgyrch #DoublePeine

Cafodd yr hashnod #DoublePeine (dwywaith y ddedfryd) ei lansio fis diwethaf gan Anna Toumazoff ar ôl iddi gael gwybod am ddynes 19 oed oedd wedi mynd at yr heddlu ym Montpellier i ddweud ei bod hi wedi cael ei threisio.

Gofynnwyd iddi ddangos i’r heddlu a oedd hi wedi cael pleser o’r profiad.

Mae menywod ledled Ffrainc wedi bod yn defnyddio’r hashnod i rannu profiadau tebyg, gyda’r grŵp NousToutes (Ni i Gyd) yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o o leiaf 30,000 o achosion o sarhau menywod ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefannau.

Er i’r heddlu dderbyn hyfforddiant, mae ymgyrchwyr yn dweud bod rhaid i’r awdurdodau wneud mwy i fynd i’r afael â throseddau rhyw a beio dioddefwyr.

Dywedodd Gerald Darmanin, un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc, yr wythnos ddiwethaf na ddylai’r heddlu ofyn rhai cwestiynau i fenywod sy’n gwneud cwynion.

Mae e hefyd wedi cyhoeddi bod ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad ym Montpellier.

Mae Anna Toumazoff yn gwadu mai ymgyrch yn erbyn yr heddlu sydd ar y gweill, gan fynnu mai’r bwriad yw annog yr heddlu i weithredu.

Mae undebau’r heddlu’n mynnu mai gwneud eu gwaith yn unig mae plismyn sy’n gofyn y fath gwestiynau.