Gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi estyniad o’r pasbortau brechu fel rhan o’u diweddariad Covid-19 nesaf, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Cafodd y pasbortau eu cyflwyno ar Hydref 11.

Ymhlith y mesurau eraill a allai gael eu hystyried mae annog mwy o bobol i weithio gartref ac i wisgo mygydau dan do.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu hadolygiad tair wythnos diweddaraf ddydd Gwener (Hydref 29).

Daeth sylwadau Eluned Morgan ar raglen Sunday Politics Wales y BBC.

Mae’r sefyllfa yng Nghymru’n sefydlog ar hyn o bryd, ond gallai Llywodraeth Cymru benderfynu symud i sefyllfa “frys” pe bai lefelau’r feirws yn codi yn ôl y disgwyl dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

Gallai hynny olygu dychwelyd i system lefelau a rhagor o gyfyngiadau – camau sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru’n “ateb terfynol”.

‘Gwneud y defnydd mwyaf o’r mesurau sydd gennym eisoes’

“Byddwn ni’n edrych i weld sut allwn ni wneud y defnydd mwyaf o’r mesurau sydd gennym ni ar waith eisoes,” meddai Eluned Morgan.

“A oes rhagor allwn ni ei wneud, er enghraifft, ynghylch gweithio gartref, ac rydyn ni’n gwybod fod hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr?

“A oes rhagor allwn ni ei wneud i sicrhau bod pobol yn gwisgo eu gorchuddion wyneb, mewn llefydd cyhoeddus dan do?

“Ac fe fyddwn ni’n gweld a allai fod yn angenrheidiol i ni gyflwyno’r pasbortau brechu mewn sefyllfaoedd eraill.

“Mae nifer o faterion y byddwn ni’n eu hystyried.

“Dydyn ni ddim yn siarad am symud i fyny’r lefelau ar yr adeg yma, ond byddwn ni bob amser yn cadw’r opsiwn yna’n agored wrth i ni fynd i mewn i’r gaeaf ond gobeithio y bydd y brechlyn yn ein helpu ni i osgoi’r math o gyfnodau clo gawson ni yn y gorffennol.”

Pasbortau brechu

Diben y pasbort brechu yw dangos bod pobol naill ai wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 neu eu bod nhw wedi cael prawf negyddol yn ystod y 48 awr diwethaf cyn mynd i leoliad dan do neu ddigwyddiad heb seddi i fwy na 500 o bobol, i ddigwyddiadau awyr agored i fwy na 4,000 o bobol, neu i unrhyw ddigwyddiad â mwy na 10,000 o bobol.

“Mae’n arf arall sydd ar gael i ni ac sydd angen i ni ddechrau meddwl amdano, ac rydym yn edrych ar unrhyw fesurau y gallwn ni eu cyflwyno i ostwng cyfraddau sy’n eithriadol o amlwg yn ein cymunedau ar hyn o bryd,” meddai Eluned Morgan wedyn.