Bydd Cyllideb ddiweddaraf Rishi Sunak yr wythnos hon yn canolbwyntio ar “edrych tua’r dyfodol ac adeiladu economi gryfach”.

Mae dwy Gyllideb ddiwethaf Canghellor San Steffan – yn 2020 a 2021 – wedi canolbwyntio ar adfer yr economi yn sgil Covid-19.

Ond sgiliau, arloesedd a thwf economaidd fydd yn cael y flaenoriaeth y tro hwn, meddai, wrth iddo bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn dod yn sefydlog unwaith eto.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi canolbwyntio ar weithredu ein cynllun ar gyfer swyddi, gwarchod bywoliaeth pobol, eu hincwm, eu swyddi,” meddai wrth Times Radio.

Ond wrth siarad â rhaglen Andrew Marr ar y BBC, eglurodd fod cryfhau’r economi yn golygu “buddsoddiad cryf mewn gwasanaethau cyhoeddus, gyrru twf economaidd drwy fuddsoddi mewn isadeiledd, arloesedd a sgiliau, rhoi hyder i fusnesau ac wedyn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio”.

“Dyna’r cynhwysion sy’n gwneud Cyllideb gryfach a dyna fyddwn ni’n ei gyflwyno yr wythnos nesaf,” meddai.

Heriau

Er gwaetha’r bwriad, mae Rishi Sunak yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys y rhybudd gan Fanc Lloegr y gallai chwyddiant godi y tu hwnt i 5%.

Mae hynny, yn ôl y Canghellor, yn rhywbeth i’w ystyried wrth wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer y cyfnod nesaf er ei fod yn pwysleisio bod y ffactorau arweiniodd at y chwyddiant y tu hwnt i’w reolaeth.

“Os cymerwch chi’r rhif chwyddiant diwethaf, sef ychydig dros 3%, sy’n amlwg yn uwch nag yr ydyn ni’n ei dargedu fel arfer, ac yn edrych ar yr hyn oedd wedi achosi hynny, mae rhan fwya’r cynnydd hwnnw wedi digwydd oherwydd dau beth.

“Un o’r pethau hynny yw’r ffaith fod economïau wedi ailagor yn eithaf cyflym ar ôl y coronafeirws, mae hynny wedi rhoi pwysau ar gadwyni cyflenwi byd-eang, a rhan arall y cynnydd yn sylweddol iawn yw prisiau ynni.

“Mae’r ffactorau hynny, ill dau, yn ffactorau byd-eang.

“Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain wrth brofi’r problemau hynny, does gen i ddim ffon hud sy’n gallu gwneud i’r naill beth na’r llall ddiflannu.”

Cyhoeddiadau

Mae Rishi Sunak eisoes wedi clustnodi oddeutu £20bn o wariant mewn 11 o gyhoeddiadau dros y penwythnos, gan gynnwys £7bn ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth y tu allan i Lundain.

Dywed fod £4.2bn o’r £7bn dros gyfnod o bum mlynedd eisoes wedi cael ei glustnodi, ond fod £1.5bn wedi cael ei ychwanegu i’r pot – er nad yw’r £1.5bn hwnnw’n arian newydd mewn gwirionedd.

“Mae’n enghraifft wych o lefelu i fyny mewn ffordd ymarferol, ac yn y pen draw mae hi jyst am greu twf yn yr holl lefydd hynny,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday.

Er gwaetha’r cyhoeddiadau, mae Rishi Sunak wedi gwrthod dweud a fydd e’n cyhoeddi na fydd trethi’n cael eu cynyddu cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Rydych chi’n gofyn i fi wneud fy Nghyllideb yn fyw ar eich sioe… fe wna i hynny yn y Senedd ddydd Mercher,” meddai, gan wrthod gwneud sylw hefyd am unrhyw fwriad i ymestyn prydau bwyd am ddim mewn ysgolion yn dilyn ymgyrch y pêl-droediwr Marcus Rashford.