Mae Aelod Seneddol Llafur Gogledd Caerdydd yn rhybuddio bod gan fenywod “ofn” mynd allan yn sgil dulliau “sinistr” o ymosod arnyn nhw.

Gwnaeth Anna McMorrin, llefarydd dioddefwyr a chyfiawnder ieuenctid ei phlaid, y sylwadau wrth siarad â rhaglen Sunday Supplement ar Radio Wales yn dilyn cynnydd diweddar mewn sbeicio diodydd a menywod yn cael eu pigo â nodwyddau.

Mae hi’n galw am wneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa yn dilyn achosion mewn nifer o drefi a dinasoedd gan gynnwys Caerdydd ac Aberystwyth.

Mae disgwyl boicot o glybiau yng Nghaerydd a rhai llefydd eraill ar Hydref 29 i dynnu sylw at y sefyllfa yn y gobaith y bydd lleoliadau bywyd nos yn ymateb i’r broblem.

Daw hyn wrth i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, alw ar heddluoedd am ddarlun o’r sefyllfa fesul ardal.

‘Cyrraedd lefel fwy sinistr’

“Dw i’n credu ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sy’n adnabod rhywun sydd wedi cael eu diod wedi’i sbeicio,” meddai Anna McMorrin.

“Ond bellach mae’n ymddangos bod hyn yn cyrraedd lefel fwy sinistr lle mae menywod a merched mewn perygl o gael eu pigo â sylwedd gwenwynig.

“A’r peth sinistr iawn, iawn yw ein bod ni’n gwybod fod yna fwriad i wneud niwed, i dreisio.

“Felly dw i’n credu ein bod ni’n gwybod fod menywod a merched yn llawn ofn.

“Ymdrin â’r trpseddwyr, dyna’r peth, a gwneud pethau fel gwneud gwreig-gasineb yn drosedd gasineb – mae hynny’n dechrau newid y diwylliant.”

Myfyrwraig yn credu iddi gael ei sbeicio drwy gael ei phigo â nodwydd mewn clwb nos

Cadi Dafydd

Mae adroddiadau am bobol yn cael eu sbeicio ar gynnydd, meddai’r heddlu, ac mae un mudiad yn gofyn i bobol foicotio clybiau mewn gwahanol ddinasoedd