Daeth 200 o bobol ynghyd ar draeth y Parrog yn Sir Benfro heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 23) fel rhan o’r ymdrechion i dynnu sylw at argyfwng ail dai yng Nghymru.

Fe fu’r rali’n galw ar Lywodraeth Cymru “i drin yr argyfwng tai fel argyfwng go iawn”, ac “nid dim ond cynnal ymgynghoriadau a thrafod y broblem”.

Ymhlith yr unigolion sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa mae Heledd Evans o Drewyddel, ac mae hi wedi bod yn sôn am ei phrofiad hi o’r farchnad dai leol.

“Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau tai eleni, mae dyfodol ieuenctid ein bro a gweddill cefn gwlad Cymru yn fwy ansicr nag erioed,” meddai.

“Dim ieuenctid, dim dyfodol i’n cymunedau gwledig Cymreig.”

‘Gofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol’

“Fe benderfynais i drefnu rali yma yn Nhrefrdraeth am bod angen gwneud rhywbeth am y broblem tai,” meddai Hedd Ladd-Lewis, un o’r trefnwyr.

“Ces i fy magu yn Nhrefdraeth ac mae’r dref wedi newid yn llwyr.

“Mae yna ofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth i brisiau tai amddifadu pobol leol o’r hawl a’r gallu i fyw yn eu cymunedau ac wrth i fwy o dai gael eu prynu fel ail dai ac AirBnBs.

“Mae yna fwy o dlodi rhent wrth i deuluoedd orfod talu rhent afresymol yn y sector breifat, a pha berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dy teras? Felly beth fydd dyfodol yr ysgol gynradd? ‘Yn ni wedi gweld beth sy’ wedi digwydd yn Abersoch yn ddiweddar.

“Ar gyfartaledd mae tŷ yn y sir yn £227,000, ond mae tai tair ystafell wely yn gwerthu am bron i £400,000 mewn ardaloedd fel Trefdraeth.

“Gan mai £26,466 yw cyflog cyfartalog y sir mae’n anodd iawn i bobl leol, a phobol ifanc yn enwedig, i brynu tŷ er mwyn byw yn lleol.”

 

Deiseb argyfwng tai bron hanner ffordd at ddadl yn y Senedd

“Amddiffynnwch bobl Cymru – cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai” yw neges awdur y ddeiseb

“Gofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg” – cri o’r galon ar drothwy protest Tai Haf

“Pa berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dŷ teras?” – dyna’r cwestiwn ar drothwy rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Nhrefdraeth yfory