Mae deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i “gymryd camau brys ar yr argyfwng tai” wedi denu bron i hanner y llofnodion sydd eu hangen ar gyfer dadl yn y Senedd.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Cara Wilson, ac mae gan bobol tan Ragfyr 2 i’w llofnodi.

“Amddiffynnwch bobl Cymru – cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr” yw neges y ddeiseb wrth iddi ymbil ar y Llywodraeth i weithredu.

‘Gorfodi pobol leol o’u cymunedau’

Mae’r ddeiseb yn rhybuddio bod “prisiau tai’n gorfodi pobol leol o’u cymunedau eu hunain” a bod y sefyllfa’n “dinistrio ein diwylliant a’n hiaith”.

“Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon,” rhybuddia wedyn.

Mae’r ddeiseb yn galw am “ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobol Cymru yn unol â’r cynllun gweithredu Cymru 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol”.

“Rhowch lais i bobol ar ddatrys ein hargyfwng tai,” meddai wedyn.

“Gweithredu wyth gofyniad y Siartr Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid” yw awgrym y ddeiseb.

Y Siartr a chanlyniadau Covid-19

Yn ôl y ddeiseb, mae Covid-19 wedi amlygu’r angen am “gamau gweithredu pendant gan Lywodraeth Cymru” i ddatrys “argyfwng mawr”, a hynny “cyn i ddiwylliannau lleol a’r Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau trefol a gwledig Cymru”.

Mae’r Siartr yn cynnig wyth maes lle mae angen gweithredu, sef:

  • Datgan argyfwng tai yng Nghymru
  • Creu bil i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb tai
  • Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol
  • Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru
  • Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol
  • Mynd i’r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys
  • Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.
  • Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.

Gyda 50 o lofnodion, fe wnaeth y ddeiseb sicrhau y bydd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau, ac fe fyddai’n cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd gyda 10,000 o lofnodion.

Mae hi wedi denu dros 4,900 o lofnodion hyd yn hyn.

“Gofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg” – cri o’r galon ar drothwy protest Tai Haf

“Pa berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dŷ teras?” – dyna’r cwestiwn ar drothwy rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Nhrefdraeth yfory