Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o “anwybyddu” problem llygredd mewn afonydd ar ôl i ddeg ohonyn nhw wrthod deddfwriaeth newydd.

Cafodd y bleidlais ar fesurau i fynd i’r afael â’r broblem ei chynnal ddydd Mercher (Hydref 20), pan wnaeth deg Ceidwadwr Cymreig bleidleisio yn erbyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai Gwelliant 45 yr Arglwyddi i Fil yr Amgylchedd wedi gosod dyletswydd gyfreithiol ar gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr i “wneud gwelliannau i systemau carthffosiaeth a dangos gostyngiad cynyddol yn y niwed sy’n cael ei achosi wrth ryddhau carthffosiaeth heb ei thrin”.

Ond fe gafodd ei wrthod ar ôl 265 o aelodau seneddol Ceidwadol, gan gynnwys deg o Gymru, bleidleisio yn erbyn y mesurau – a hynny, yn ôl Jane Dodds, er bod afon Gwy yn llifo drwy etholaeth David TC Davies ym Mynwy a honno’n un o’r afonydd sydd wedi’i tharo’n wael.

Yn ôl ffigurau Dŵr Cymru yn 2020, roedd systemau gorlifo stormydd afon Gwy ar agor am fwy na 17.4m o funudau, sy’n cyfateb i werth 33 o flynyddoedd o garthffosiaeth yn y dŵr dros gyfnod o 12 mis.

Ledled Cymru, cafodd carthffosiaeth ei ollwng mewn afonydd fwy na 100,000 o weithiau yn ystod y flwyddyn, a hynny am bron i 900,000 o oriau.

‘Hollol anghredadwy’

“Mae’n hollol anghredadwy y byddai deg o aelodau seneddol y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y darn hwn o ddeddfwriaeth y mae mawr ei angen, tra nad oedd y tri sydd yn weddill wedi cofrestru pleidlais hyd yn oed,” meddai Jane Dodds.

“Mae’r dystiolaeth yn glir, gyda llai na hanner afonydd Cymru’n cyrraedd statws ecolegol da, mae ein hafonydd a’r bywyd ynddyn nhw’n marw.

“Mae hyn ar y cyfan oherwydd carthffosiaeth yn cael ei ollwng ynddyn nhw, ochr yn ochr â’r môr a rhai llynnoedd hyd yn oed.

“Dylai’r Ceidwadwyr Cymreig deimlo cywilydd llwyr o golli’r fath gyfle hanfodol i helpu i achub ein hafonydd…

“Mae dyfroedd Cymru’n eiddo i ni gyd ac mae’n amharchus fod rhai cwmnïau dŵr yn parhau i’w trin nhw fel carthffosydd agored.

“Gallai’r Bil yma fod wedi gweld y rhod yn troi yn erbyn yr arfer yma, ac rwy’n rhannu torcalon grwpiau amgylcheddol fod y Ceidwadwyr wedi dewis ei drechu.”