Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd yn cael eu canmol am ddefnyddio’r Gymraeg mewn fideo newydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r fideo ar dudalen Twitter y clwb yn dangos dau chwaraewr, Cole Sandford a Trevor Cox, yn ateb cwestiynau ‘Fe neu Fi?’

Mae gofyn i’r chwaraewyr ateb cwestiynau drwy ddal un cerdyn i fyny, a’r ateb i bob cwestiwn yw ‘Fi’ neu ‘Fe’.

Mae’r cardiau’n dwyn y geiriau yn Gymraeg o dan y Saesneg ar fflachgardiau.

Mae’r fideo wedi cael ei hoffi ddegau o weithiau.

“Mae’n ardderchog i weld yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio fan hyn,” meddai @aurybyd1 wrth ymateb i’r fideo.