Mae Neil Warnock, cyn-reolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi ychwanegu at ddiflastod y rheolwr presennol Mick McCarthy, sy’n wynebu dyfodol ansicr iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd yr ymwelwyr yn fuddugol o 2-0 wrth i gefnogwyr y tîm cartref ganu enw Warnock a dangos eu dicter tuag at eu rheolwr presennol, gyda’r Adar Gleision bellach wedi colli chwe gêm yn olynol ar eu tomen eu hunain ac wyth yn olynol ar y cyfan.

Rhwydodd Andraz Sporar o’r smotyn ar ôl i Mark McGuinness lawio’r bêl yn y cwrt cosbi ar ôl hanner awr, ac fe ddyblodd yr ymwelwyr eu mantais wrth i Martin Payero rwydo yn yr ail hanner.

Wrth geisio gwyrdroi’r sefyllfa, cafodd James Collins ei ddewis ym mlaen y cae yn lle’r ymosodwr rhyngwladol Kieffer Moore, ond wnaeth hynny fawr o wahaniaeth gyda chyn lleied o gyfleoedd o flaen y gôl.

Ac fe amlygodd Middlesbrough wendidau amddiffynnol Caerdydd o’r gic gyntaf, gyda Paddy McNair a Payero yn cael cyfleoedd cynnar i sgorio.

Ac fe ddaeth Sol Bamba, cyn-chwaraewr Caerdydd, yn agos at rwydo yn erbyn ei hen glwb yn fuan wedyn hefyd.

A doedd hi ddim yn hir cyn i gefnogwyr Caerdydd ddechrau gwawdio McCarthy wrth floeddio am ei obeithion o gadw ei swydd yn dilyn canlyniad siomedig arall.

Daeth Moore i’r cae ar gyfer yr ail hanner ond wnaeth e fawr o wahaniaeth i’r perfformiad er bod peth gwelliant.

Yn yr wyth gêm mae Caerdydd wedi’u colli o’r bron, dim ond unwaith maen nhw wedi sgorio, ond maen nhw wedi ildio 19 o goliau.

Roedd amser Mick McCarthy yn y clwb yn edrych yn ansicr cyn y gemau diwethaf, a’r awgrym oedd ei fod e wedi cael y gemau yn erbyn Fulham a Middlesbrough i brofi ei hun a gwyrdroi’r sefyllfa, ond mae’n anodd gweld ffordd yn ôl iddo ar ôl y canlyniadau diweddaraf.

Cafodd hynny ei danlinellu ar ddiwedd y gêm, wrth i McCarthy fethu â chyfarfod â’r wasg ar gyfer cynhadledd ar ôl y gêm, a’r dyfalu yw y gallai’r clwb wneud datganiad yn fuan.

Mick McCarthy yn gorfod ymdopi gydag anafiadau ar drothwy gêm fawr

Yr Adar Gleision wedi colli saith gêm yn olynol