Mae gan reolwr Caerdydd, Mick McCarthy, benbleth o’i flaen wrth i nifer o’i chwaraewyr fod yn absennol yn erbyn Middlesbrough heddiw.

Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 12.30 brynhawn dydd Sadwrn (Hydref 23), gyda’r tîm cartref yn mynd i mewn i’r ornest wedi colli saith yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Oherwydd hynny, mi fydd Mick McCarthy mewn peryg go iawn o golli ei swydd os na chaiff yr Adar Gleision ganlyniad ffafriol.

A fydd hynny ddim yn hawdd oherwydd bod yr ymwelwyr ymysg y timau sy’n cwffio am y safleoedd ail gyfle yn gynnar yn y tymor.

Mae’r tîm o ogledd-ddwyrain Lloegr yn cynnwys wynebau cyfarwydd i gefnogwyr Caerdydd – yr amddiffynnwr Sol Bamba, a’r rheolwr Neil Warnock, a arweiniodd yr Adar Gleision i’r Uwchgynghrair yn Lloegr dair blynedd yn ôl.

Neil Warnock (trydydd o’r chwith) arweiniodd Caerdydd i’r Uwch Gynghrair yn 2018

Anafiadau

Ymhlith y chwaraewyr fydd yn absennol oherwydd anafiadau mae Joe Ralls a Leandro Bacuna, a gafodd eu heilyddio yn y golled yn erbyn Abertawe, yn ogystal â Joel Bagan, Sam Bowen a Tom Sang.

Bydd yn rhaid i’r capten Sean Morrison aros i weld a yw’n adennill ei le yn yr amddiffyn ar ôl cael ei hepgor yn erbyn Fulham yng nghanol yr wythnos.

Mae’r Cymry, Kieffer Moore, Rubin Colwill a Will Vaulks, ar gael i Gaerdydd, sydd hefyd yn disgwyl am eu gôl gyntaf ers pump gêm.

Yr ymwelwyr

Yn ffodus i’r tîm cartref, mae gan yr ymwelwyr bryderon eu hunain, wrth i Dael Fry, Grant Hall ac Anfernee Dijksteel golli allan ar y gêm dros y penwythnos.

Mae Middlesbrough am aros i weld a fydd eu hymosodwr ar fenthyg, Andraž Šporar, yn holliach i ddechrau, ar ôl iddo gael clec tra ar ddyletswydd rhyngwladol yn ddiweddar.

Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod, gêm gyfartal yn Stadiwm Riverside oedd hi, gyda Chaerdydd yn ildio gôl hwyr.

Gair gan y rheolwr

Fe siaradodd Mick McCarthy yn y gynhadledd i’r wasg – ei olaf yng Nghaerdydd o bosib – cyn y gêm brynhawn Sadwrn.

“Byddwn ni’n paratoi’r chwaraewyr ac yn sicrhau eu bod nhw wedi’u cymell unwaith eto – mi oedden nhw yn amlwg nos Lun,” meddai.

“Mae’n rhaid i chi ddal ati, achos mae angen i ni gael perfformiad i ennill y gêm.

“Yn anffodus, mae timau wedi bod yn mwynhau chwarae yn erbyn fy nhîm i yn y chwech neu saith gêm ddiwethaf ac mae hynny’n siomedig.

“Byswn i’n hoffi mynd yn ôl at y pwynt pan nad oedd Middlesbrough yn hoffi chwarae yn ein herbyn.”

Neil yn ôl

Wrth sôn am y rheolwr sy’n ei wynebu, Neil Warnock, fe bwyntiodd Mick McCarthy at y tebygrwydd sydd rhwng y ddau ohonyn nhw.

“Mae Neil a finnau wedi bod o gwmpas ers amser maith,” meddai.

“Rydyn ni’n disgwyl rhai pethau gan y timau rydyn ni’n eu hyfforddi, eu rheoli a’u rhoi at ei gilydd, a thrwy gydol ein gyrfaoedd rydyn ni wedi cael llwyddiant ag o.

“Fydd yna ddim cydymdeimlad yn cael ei roi gan yr un tîm ddydd Sadwrn, mae hynny’n sicr.”