Llwyddodd Abertawe i sicrhau buddugoliaeth gynhwysfawr o 3-0 gartref yn erbyn Caerdydd ac ychwanegu at y pwysau ar Mick McCarthy.

Sgoriodd Jamie Paterson un a rhoi cymorth gyda’r ddwy arall wrth i Gaerdydd golli eu chweched gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth Sky Bet.

Fe darodd Joel Piroe a Jake Bidwell goliau ail hanner wrth i Abertawe fwynhau eu buddugoliaeth fwyaf yn y gynghrair o dan Russell Martin.

Roedd y modd yr ildiodd Caerdydd yn yr ail hanner yn golygu y bydd cwestiynau difrifol yn cael eu gofyn yn ystafell fwrdd yr Adar Gleision.

Euraidd

Dim ond ers mis Ionawr y mae McCarthy wedi bod wrth y llyw ond mae Caerdydd bellach ddim ond pedwar pwynt yn uwch na’r gwaelodiohn pan oedd disgwyl iddynt – ar ddechrau’r tymor – osod her a chyrraedd y gemau ail-gyfle o leiaf.

Methodd Caerdydd gyfle euraidd i sgorio gyda ymdrech Ryan Giles ond newidiodd cydbwysedd yr ornest o fewn 30 eiliad at y marc hanner awr.

Ond fe wnaeth Abertawe ailgylchu meddiant ac roedd gan Paterson ddigon o amser i ryddhau ergyd 25 llath a aeth i mewn oddi ar bostyn pellaf Smithies.

Trydydd

Roedd yr ornest yn fwy agored na gemau diweddar rhwng y ddau glwb ac fe daniodd Ryan Manning drosodd wedi’r ailgychwyn cyn i Gaerdydd ddod yn agos ddwywaith o fewn munud.

Arbedodd Smithies o Laird a Ryan Bennett ond roedd pwysau cynyddol Abertawe yn amlwg.

Paterson oedd y pensaer y tro hwn gyda phas deallus ac fe reolodd Piroe y bêl ar ei frest cyn ei chodi dros Smithies am ei seithfed gôl i Abertawe.

Dylai Korey Smith fod wedi ychwanegu trydydd gôl cyn i Bidwell wneud gyda pheniad ar ôl i Paterson arnofio’r bêl yn glyfar dros ben Smithies.

Dylai bod Olivier Ntcham wedi ychwanegu pedwerydd i sicrhau’r fuddugoliaeth fwyaf yn y gêm hon ers 1965, ond roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio i gefnogwyr Abertawe ac un i’w anghofio i McCarthy.