Yn dilyn ffenestr ryngwladol gymharol lwyddiannus, yn ôl gyda’u clybiau yr oedd chwaraewyr Cymru’r penwythnos hwn. Ond gyda chwta bedair wythnos i fynd cyn gemau nesaf y tîm cenedlaethol, ychydig o gyfleoedd a fydd i greu argraff.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Gwnaeth Neco Williams ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Watford amser cinio ddydd Sadwrn, dim ond y pumed Cymro i ymddangos yn y gystadleuaeth y tymor hwn. Cwta ddeg munud oddi ar y fainc a gafodd y cefnwr ifanc ond creodd argraff yn yr amser hwnnw, yn creu trydedd gôl Roberto Firmino o’r prynhawn mewn crasfa o bum gôl i ddim!

Dechreuodd dau Gymro i Leeds wrth iddynt ymweld â Southampton brynhawn Sadwrn, Tyler Roberts a Daniel James. Colli o gôl i ddim a fu eu hanes serch hynny, gyda James yn methu hanner cyfle i sgorio.

Roedd gan Danny Ward sedd dda i wylio Caerlŷr yn curo Man U o bedair gôl i ddwy, ar y fainc yn ôl ei arfer i’w glwb. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Wayne Hennessey a Connor Roberts yng ngholled Burnley o ddwy gôl i ddim yn erbyn Man City hefyd, y tro cyntaf i Roberts gael ei gynnwys mewn carfan ar gyfer gêm gyda’i glwb newydd.

Braf oedd gweld Ben Davies yn ôl yng ngharfan Tottenham ddydd Sul yn dilyn salwch, yn dechrau ar y fainc yn Newcastle. Nid oedd golwg o Joe Rodon serch hynny yn dilyn ei berfformiadau gwych dros ei wlad.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Darbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd yn Stadiwm Swansea.com amser cinio ddydd Sul a oedd gêm fawr y penwythnos yn y Bencampwriaeth a dim ond un tîm a oedd ynddi gyda’r Elyrch yn ennill o dair gôl i ddim. Ymddangosodd Ben Cabango a Liam Cullen fel eilyddion hwyr â’r gêm wedi ei hen ennill. Dechreuodd Kieffer Moore i’r Adar Gleision ac roedd ymddangosiad oddi ar y fainc i Will Vaulks a Rubin Colwill. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Mark Harris.

Brennan Johnson a oedd un o arwyr Nottingham Forest wrth iddynt drechu Blackpool o ddwy gôl i un ddydd Sadwrn, yn gorffen symudiad slic i sgorio’r gyntaf o goliau’r tîm cartref. Daeth hynny wedi iddo gael ei enwi’n chwaraewr ifanc y mis yn y Bencampwriaeth ar gtfer mis Medi. Nid Chris Maxwell a oedd rhwng y pyst yn ceisio’i atal, mae gôl-geidwad Blackpool yn parhau i fod wedi ei anafu ar ôl gadael y cae yng ngêm ddiwethaf ei glwb.

Daeth wythnos anodd i Bournemouth i ben ar nodyn cadarnhaol wrth iddynt guro Bristol City i aros ar frig y tabl. Yn dilyn y cyhoeddiad ganol wythnos fod chwaraewr Cymru a’r Cherries, David Brooks, yn dioddef gyda Lymffoma Hodgkin cam 2, fe ddathlodd ei gyd chwaraewyr fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim gyda chrys rhif saith y Cymro. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd cydwladwr Brooks, Chris Mepham, i’r ymwelwyr. Dechreuodd Andy King i’r tîm cartref cyn cael ei orfodi oddi ar y cae gydag anaf hwyr.

Tîm sydd yn dynn ar sodlau Bornemouth ar y brig yw Fulham. Maent yn drydydd ar ôl trechu QPR o bedair gôl i un gyda Harry Wilson yn y tîm.

Llithrodd Stoke i’r pumed safle ar ôl colli o ddwy gôl i un yn erbyn Sheffield United. Chwaraeodd Adam Davies, James Chester a Joe Allen i’r Potters ond roedd Rhys Norrington-Davies yn parhau i fod yn absennol i’r Blades ar ôl methu gemau Cymru gydag anaf.

Mae tymor Sorba Thomas yn mynd o nerth i nerth i’w wlad a’i glwb. Ar ôl gwneud ei ddau ymddangosiad cyntaf dros Gymru’r wythnos diwethaf, fe greodd ail gôl ei dîm wrth i Huddersfield guro Hull o ddwy gôl i ddim a chodi i’r chwech uchaf yn y tabl. Nid oedd Matthew Smith yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Tua phen arall y tabl, mae Derby yn aros ar y gwaelod er gwaethaf pwynt o gêm ddi sgôr yn erbyn Preston. Chwaraeodd Tom Lawrence y gêm gyfan i’r Meheryn ac roedd Andrew Hughes yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Yn cadw cwmni i Derby yn y tri isaf y mae Peterborough a Barnsley. Ildiodd Dave Cornell ddwy gôl hwyr wrth i Peterborough golli ym Middlesbrough ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ben Williams wrth i Barnsley golli yn Reading.

Cyfrannodd Tom Lockyer at lechen lân Luton wrth iddynt ennill o ddwy gôl i ddim ym Millwall, ble’r oedd Tom Bradshaw yn eilydd heb ei ddefnyddio. Chwaraeodd yr amddiffynnwr bum gêm ddiwethaf ei glwb cyn tynnu allan o garfan Cymru oherwydd anaf ond dychwelyd i dîm Luton ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Pe bai Aaron Ramsey’n gwneud hynny, fydden ni ddim yn clywed ei diwedd hi!

 

*

 

Cynghreiriau is

Jonny Williams a oedd arwr Swindon ddydd Sadwrn wrth iddynt achub pwynt yn eu gêm Ail Adran yn erbyn Rochdale. Daeth y Cymro i’r cae gyda deg munud yn weddill a’i dîm newydd fynd ddwy gôl i un ar ei hôl hi. Mae Joniesta eisoes yn dipyn o ffefryn ymysg ffyddloniaid y County Ground a chododd ei statws ym mhellach gyda’i gôl gyntaf dros y clwb, yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau yn erbyn Rochdale.

Sgoriodd Cymro arall gôl hwyr bwysig yn yr Adran Gyntaf, Regan Poole yn cipio’r tri phwynt i Lincoln wrth iddynt drechu Charlton o ddwy gôl i un, gôl gyntaf y cefnwr de dros ei glwb. O’r cefnwyr de yng ngharfan y gwrthwynebwyr, Chris Gunter a chwaraeodd yn y gêm hon gydag Adam Matthews yn gwylio o’r fainc.

Plymouth sydd ar frig yr Adran Gyntaf yn dilyn buddugoliaeth o dair gôl i un yn Rhydychen. Chwaraeodd James Wilson yn yr amddiffyn ac yn y pen arall, Luke Jephcott a greodd ddwy gôl gyntaf yr ymwelwyr. Ar y fainc yr oedd Billy Bodin i’r tîm cartref.

Gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn gwahanu Plymouth a Wycombe sydd yn ail. Nid oedd Sam Vokes yn y garfan wrth iddynt guro Doncaster o ddwy i ddim ond roedd Adam Przybek ar y fainc ac fe ddechreuodd Joe Jacobson gan greu gôl agoriadol ei dîm.

Mae Wigan yn dynn ar sodlau’r ddau uchaf ond nid oedd lle i Gwion Edwards yn y tîm a gurodd Bolton o bedair i ddim. Roedd llai na’r arfer o Gymry yn nhîm Bolton hefyd gyda dim ond Josh Sheehan a Jordan Williams yn dechrau. Ymddangosodd Lloyd Isgrove oddi ar y fainc ond nid oedd y cefnwyr, Gethin Jones a Declan John yn y garfan.

Roedd gêm gyfartal ddwy gôl yr un i Ipswich yng Nghaergrawnt. Nid oedd Lee Evans yn y garfan ond ymddangosodd Wes Burns oddi ar y fainc.

Colli’n drwm a fu hanes Portsmouth yn Rotherham. Dechreuodd Kieron Freeman a Joe Morrell i Pompey a daeth Louis Thompson oddi ar y fainc.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi yn y frwydr brig-y-tabl rhwng Rangers a Hearts yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Woodburn yr awr gyntaf i’r ymwelwyr o Gaeredin.

Mewn gêm chwech uchaf arall, cafodd Dundee Utd fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Hibs ond nid oedd Dylan Levitt yng ngharfan y Tangerines a pharhau i fod yn absennol o dîm Hibs y mae Christian Doidge hefyd.

Dechreuodd Alex Samuel i Ross County ond colli o ddwy gôl i dair a fu hanes ei dîm yn erbyn St Mirren.

Parhau y mae tymor siomedig Aberdeen wedi iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn y tîm a ddechreuodd y penwythnos ar y gwaelod, Dundee. Dechreuodd Ryan Hedges i’r Cochion ac roedd hanner awr oddi ar y fainc i Marley Watkins.

Mae Dunfermline ac Owain Fôn Williams yn parhau i fod heb fuddugoliaeth ac ar waelod Pencampwriaeth yr Alban yn dilyn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Kilmarnock ddydd Sadwrn.

Straffaglu tua gwaelod y tabl y mae Rabbi Matondo gyda Cercle Brugge yng Ngwlad Belg hefyd. Collodd ei dîm am y bedwaredd gêm yn olynol wrth wynebu Oostende ddydd Sadwrn, gyda’r ychydig funudau a gafodd y Cymro oddi ar y fainc ar ddiwedd y gêm ddim yn ddigon i greu argraff.

Mae pethau’n mynd dipyn gwell i James Lawrence yn yr Almaen. Mae St. Pauli ar frig y 2. Bundesliga ar ôl trechu Heidenheim o bedair gôl i ddwy. Wedi dweud hynny, nid yw’r Cymro wedi bod yn dechrau’n ddiweddar ac eilydd hwyr oedd o unwaith eto yn y gêm hon.

Yn yr Eidal, mae Juventus Aaron Ramsey yn wynebu Roma yng ngêm hwyr Serie A nos Sul ac nid yw Venezia Ethan Ampadu yn chwarae tan nos Lun, yn erbyn Fiorentina.