Bydd dyn sydd wedi’i gyhuddo o beryglu diogelwch awyren oedd yn cludo Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd a gafodd ei ladd fis Ionawr 2019, yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Llun, Hydref 18).
Mae David Henderson o Swydd Efrog hefyd wedi’i gyhuddo o geisio rhyddhau teithiwr heb fod ganddo ganiatâd nac awdurdod.
Mae’r dyn 66 oed wedi’i amau o drefnu taith y chwaraewr 28 oed a’i beilot 59 oed, David Ibbotson, ac fe fydd e’n wynebu’r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae’n gwadu’r ddau gyhuddiad ar ôl i’r awyren blymio i’r ddaear oddi ar ynys Guernsey bron i dair blynedd yn ôl.
Roedd yr awyren yn cludo Emiliano Sala o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd ar ôl iddo ymuno â’r Adar Gleision.
Cafwyd hyd i’w gorff yn y môr fis yn ddiweddarach, ond dydy corff David Ibbotson erioed wedi cael ei ganfod na chwaith weddillion yr awyren.
Honiadau
Clywodd gwrandawiad fis Hydref y llynedd fod trwydded David Ibbotson i hedfan awyren fasnachol wedi dirwyn i ben ym mis Tachwedd 2018.
Roedd adroddiad blaenorol yr AAIB (Cangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr) wedi adrodd fod y peilot yn hedfan yn rhy gyflym a’i fod e wedi colli rheolaeth mewn tywydd garw a bod yr awyren wedi chwalu yn yr awyr.
Ychwanegodd yr adroddiad hwnnw y posibilrwydd fod y peilot wedi’i wenwyno gan garbon monocsid.
Ond doedd e ddim wedi cael hyfforddiant i hedfan awyrennau yn y nos ac mae lle i gredu bod hynny wedi cyfrannu at y digwyddiad.
Doedd ei drwydded ddim yn ei alluogi i hedfan awyrennau masnachol yn gyfnewid am roddion.
Cafodd cwest i’w farwolaeth ei ohirio tan ar ôl achos llys David Henderson.
Does dim disgwyl y bydd teulu Emiliano Sala yn y llys ar gyfer yr achos.
Mae David Henderson yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac mae e ar fechnïaeth ar drothwy’r gwrandawiad gerbron Mr Ustus Foxton o’r Uchel Lys.
Mae disgwyl i’r achos bara pythefnos.