Bydd Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîmn rygbi merched Cymru, wrth y llyw am flwyddyn arall.

Bydd y cyfnod hwn yn cwmpasu Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

Fe fydd e’n cael ei gynorthwyo gan Geraint Lewis, Richard Whiffin a Sophie Spence.

Fe wnaeth Ioan Cunningham ddatblygu ei sgiliau hyfforddi fel rhan o Lwybr Hyfforddi Elit Undeb Rygbi Cymru cyn mynd yn ei flaen i gydweithio â Wayne Pivac a Brad Mooar yn y Scarlets.

Arweiniodd e dîm hyfforddi’r tîm dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf ac ers hynny, mae e bellach yn hyfforddwr perfformiad llawn amser gydag Undeb Rygbi Cymru.

Cafodd y tîm cyfan ei benodi dros dro fis diwethaf ond mae Nigel Walker, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, yn dweud ei fod yn “falch o gael dangos ffydd yn y tîm ifanc, cyffrous hwn o hyfforddwyr flwyddyn cyn Cwpan Rygbi’r Byd”.

Mae’n dweud bod yr Undeb “wedi ymrwymo i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr i baratoi’r garfan yn y modd gorau posib ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf”.

Fel rhan o’r tîm hyfforddi, fe fydd y chwaraewyr yn elwa ar arbenigedd ym meysydd cyflyru, ffisiotherapi, meddygaeth, maeth a dadansoddi perfformiad, meddai, gan ychwanegu mai ymestyn cytundebau’r tîm hyfforddi presennol yw’r “ateb gorau posib sydd ar gael i ni ar hyn o bryd”.

Canolfan perfformiad newydd

Yn sgil swigod Covid-19, mae canolfan perfformiad newydd wedi’i sefydlu yn Stadiwm Principality ar gyfer tîm y merched.

Mae’r ganolfan yn cynnwys campfa bwrpasol, canolfan feddygol ac ystafelloedd i’r tîm, ac mae hi ger Parc yr Arfau, lle bydd y tîm yn ymarfer ac yn chwarae eu gemau cartref drwy gydol y tymor.

Bu’r merched yn ymarfer yn y ganolfan dros y penwythnos ar ôl i’r garfan gael ei chyhoeddi ar gyfer gemau’r hydref yn erbyn Japan (Tachwedd 7), De Affrica (Tachwedd 13) a Chanada (Tachwedd 21) fis nesaf.

Mae’r capten Siwan Lillicrap wedi croesawu penodiad parhaol y tîm hyfforddi, gan ddweud ei bod yn “wych derbyn y newyddion”.

Y garfan

Blaenwyr:

Siwan Lillicrap (capten), Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Dainton, Kat Evans, Cerys Hale, Cara Hope, Gwen Crabb, Abbie Fleming, Georgia Evans, Natalia John, Madi Johns, Manon Johnes, Molly Kelly, Bethan Lewis, Robyn Lock, Liliana Podpadec, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Caryl Thomas

Olwyr:

Keira Bevan, Leanne Burnell, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Jess Kavanagh, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Jade Mullen, Lisa Neumann, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Flo Williams, Megan Webb, Robyn Wilkins