Mae un o gricedwyr Morgannwg yn mynd sawl milltir ychwanegol i godi arian at achos da ar ddiwedd taith feics o Leeds i Lundain.

Mae James Harris, y chwaraewr amryddawn sydd newydd ddychwelyd i Glwb Criced Morgannwg, yn un o griw sydd newydd gwblhau taith o fwy na 340km o gae Headingley i Lord’s dros gyfnod o bedwar diwrnod.

Roedd Harris eisoes wedi cwblhau’r milltiroedd ychwanegol rhwng Hydref 12 a 14 wrth seiclo o stadiwm Gerddi Sophia i gyfarfod â gweddill y criw yng ngogledd Lloegr ar Hydref 14, ond fe fydd e bellach yn teithio o Lundain yn ôl i Gaerdydd i orffen yr her dros y ddeuddydd nesaf.

Erbyn i’w her ddod i ben, fe fydd e wedi seiclo dros 900km mewn wythnos.

Mae’r criw yn codi arian at Ymddiriedolaeth y Cricedwyr Proffesiynol, ac mae Harris yn gadeirydd ar Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Mae’r ymddiriedolaeth yn cefnogi cricedwyr a’u teuluoedd ym mhob agwedd ar fywyd yn ystod eu gyrfaoedd a thu hwnt, ac maen nhw’n darogan eu bod nhw wedi colli gwerth £200,000 o incwm yn sgil Covid-19 yn ystod 2020.

Darllenwch ragor am yr her.

Wellyman Walking yn tynnu tua’i therfyn

Daw’r her elusennol hon wrth i Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, gwblhau dau ddiwrnod olaf ei her ei hun.

Mae e wedi bod yn cerdded bob cam o Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard er cof am ei fab a chyn-gricedwr Morgannwg a Surrey a fu farw’n 23 oed yn 2012.

Fel rhan o’r her, mae e hefyd wedi bod yn dringo Tri Chopa Cymru yn ei welingtons.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau lle chwarae i blant yn y stadiwm, rhywbeth sydd wedi bod ar goll ers i’r stadiwm gael ei datblygu flynyddoedd yn ôl.

Matthew Maynard ar ben mynydd Pen-y-fan

O Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons i sicrhau lle chwarae i blant

Alun Rhys Chivers

Bydd Matthew Maynard yn cerdded bob cam ac yn dringo’r Tri Chopa er cof am ei fab Tom