Mae Daniel Barden, golwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru, wedi cael diagnosis o ganser y ceilliau.

Bydd y golwr 20 oed, sy’n chwarae ar fenthyg i glwb Livingston yn yr Alban, yn cael profion pellach a thriniaeth dros y misoedd nesaf.

Mae’r chwaraewr wedi diolch am y gefnogaeth mae wedi ei derbyn, yn enwedig gan ei glwb cartref Norwich City, ei glwb benthyg Livingston, yn ogystal â’i deulu a’i ffrindiau.

Daw hyn ychydig ddyddiau ar ôl i chwaraewr arall Cymru, David Brooks, gael diagnosis o ganser lymffoma Hodgkin, sydd am ei gadw allan o’r gêm tra ei fod yntau’n cael triniaeth.

‘Rwy’n optimistaidd ac mae gen i feddylfryd cadarnhaol’

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd a heriol iawn, ond mae cefnogaeth fy nheulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi fy helpu i drwy’r wythnosau diwethaf,” meddai Daniel Barden.

“Alla i ddim diolch digon i’r adrannau meddygol yn Norwich a Livingston, yn ogystal â phawb yn Ysbyty Brenhinol Marsden.

“Mae’r cyflymder y mae popeth wedi digwydd wedi bod yn wallgof, ond mae pawb wedi bod yn hollol wych gyda fi.

“Mae [rheolwr Norwich] Daniel Farke, a rheolwr Livingston, David Martindale, hefyd wedi bod yn gefnogol iawn.

“Roedd y diagnosis cychwynnol yn sioc wirioneddol, ond y peth cadarnhaol yw ein bod ni wedi ei ddal yn gynnar ac mae’r prognosis a’r camau nesaf i gyd wedi bod yn gadarnhaol.

“Rwy’n optimistaidd ac mae gen i feddylfryd cadarnhaol. Rwy’n hyderus y byddaf yn gallu ei guro ac y byddaf yn ôl allan yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu yn fuan.

“Hoffwn ddiolch i bawb o fy nghwmpas am eu cefnogaeth. Dw i’n gwybod y bydd y cyfnod i ddod yn heriol a dw i’n gofyn am breifatrwydd i fi a fy nheulu ar hyn o bryd. Pan mae hi’n bosib, bydda i’n gwneud popeth dw i’n gallu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fy natblygiad.

“Diolch unwaith eto am y gefnogaeth. Gwela i bawb yn fuan.”