Mae chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks, wedi cael diagnosis o lymffoma Hodgkin cam dau.

Fe wnaeth David Brooks, 24, sy’n chwarae ei bêl-droed i Bournemouth, dynnu allan o gemau rhagbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd dros yr hydref yn sgil salwch.

Cyhoeddodd bod ganddo ganser yn ei system lymffatig mewn datganiad heddiw, gan ddweud y bydd yn dechrau cael triniaeth yn fuan.

“Mae hwn yn neges anodd iawn i mi ei ysgrifennu,” meddai David Brooks.

“Dw i wedi cael fy niagnosio â Lymffoma Hodgkin Cam II a byddaf yn dechrau cwrs o driniaeth yr wythnos nesaf.

“Er bod hyn wedi dod fel sioc i fi a fy nheulu, mae’r prognosis yn un cadarnhaol a dw i’n hyderus y byddaf yn gwella’n llawn ac yn ôl yn chwarae cyn gynted â phosib.

“Hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad i’r meddygon, nyrsys, ymgynghorwyr a’r staff sydd wedi bod yn gofalu amdanaf am eu proffesiynoldeb, eu cynhesrwydd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

“Dw i eisiau diolch i bawb yng Nghymdeithas Pêl-droed Cymru oherwydd heb sylw brys eu tîm meddygol efallai na fydden ni wedi adnabod y salwch.

“Hoffwn ddiolch hefyd i AFC Bournemouth am eu cefnogaeth a’u cymorth dros yr wythnos ddiwethaf hon.

“Er fy mod i’n gwerthfawrogi y bydd yna sylw yn y wasg a diddordeb, hoffwn ofyn bod fy mhreifatrwydd yn cael ei barchu yn y misoedd sydd o’n blaenau a byddaf yn rhannu diweddariadau ynghylch fy nghynnydd pan dw i’n gallu gwneud hynny.

“Yn y cyfamser, diolch i bawb am eu negeseuon o gefnogaeth – mae’n golygu cymaint, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y misoedd sydd i ddod.

“Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld chi gyd eto, a chwarae’r gêm dw i’n ei charu’n fuan iawn.”

“Cryfach gyda’n Gilydd”

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydyn ni gyd yn sefyll gyda thi, Brooksy!

“Rydyn ni’n Gryfach Gyda’n Gilydd.

“Gorau Chwarae Cyd Chwarae.”

Dywedodd clwb Bournemouth ar Twitter: “Rydyn ni tu cefn iti, Brooksy”, ac fe wnaeth y prif weithredwr, Neil Blake, addo ei gefnogi bob cam o’r ffordd.

“Bydd pawb yn AFC Bournemouth yn gwneud popeth posib i helpu i gefnogi David a’i deulu wrth iddo wella,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn rhoi unrhyw syniad ynghylch pryd fydd yn dychwelyd; byddwn ni’n rhoi’r holl amser y mae David ei angen i wella a byddwn yn gwneud popeth y gallwn ni i helpu efo hynny.”