Mae blaenwr Caerlŷr, Hannah Cain, wedi cael ei galw i fod yn rhan o garfan tîm pêl-droed merched Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol nesaf Cwpan y Byd.

Bydd hi’n rhan o garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gemau yn erbyn Slofenia ac Estonia ddiwedd mis Hydref.

Methodd Hannah Cain, sydd wedi newid o gynrychioli Lloegr, gemau agoriadol Cymru yn erbyn Kazakstan ac Estonia fis diwethaf yn sgil anaf.

Chwaraeodd i Gymru Dan-17 yn 2014, cyn cynrychioli Lloegr mewn gemau dan-17 i dan-21.

Bydd Sophie Ingle a Jess Fishlock yn dod mewn i’r wythnos o gemau rhyngwladol hefyd, yn dilyn nifer o ganlyniadau da i Chelsea ac OL Reign.

Cymru a Ffrainc sydd ar frig tabl Grŵp 1 ar hyn o bryd, gyda chwe phwynt yr un ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023.

Chwaraeodd tîm merched Cymru eu gêm gyntaf ym mis Medi 1993 yn erbyn Gwlad yr Iâ, a byddan nhw’n chwarae eu 200fed gêm yn Slofenia ddydd Gwener nesaf (22 Hydref).

Bedwar diwrnod wedyn (26 Hydref), bydd tîm Gemma Grainger yn croesawu Estonia i Gaerdydd.

Cafodd y garfan eu henwi gan nifer o gyn-chwaraewyr Cymru mewn fideo ar gyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel rhan o’r dathliadau ar gyfer nodi 200fed gêm tîm y merched.

Y garfan: Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry), Poppy Soper (Plymouth), Hayley Ladd (Manceinion Unedig), Gemma Evans (Reading), Natasha Harding (Reading), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Esther Morgan (Tottenham), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Charlton), Angharad James (North Carolina), Josie Green (Tottenham), Charlie Estcourt (Coventry), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manceinion Unedig), Chloe Williams (Manceinion Unedig), Ffion Morgan (Dinas Bryste), Megan Wynne (Charlton), Hannah Cain (Caerlŷr), Ceri Holland (Lerpwl), Kayleigh Green (Brighton), Helen Ward (Watford), Elise Hughes (Charlton), Georgia Walters (Lerpwl).