Mae cefnwr Cymru, Hallam Amos, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae rygbi yn 27 oed.
Bydd Hallam Amos, sy’n chwarae i Gaerdydd, yn rhoi gorau i’r gêm ar ddiwedd y tymor er mwyn canolbwyntio ar yrfa mewn meddygaeth.
Yn ddiweddar, fe basiodd ei arholiadau meddygol clinigol, ac mae wedi rhoi gwybod i glwb Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i chwarae rygbi.
Ymunodd â Chaerdydd cyn tymor 2019-20, a bu’n chwarae i’r Dreigiau cyn hynny am naw mlynedd.
“Her newydd”
“Dw i’n ddiolchgar iawn am y profiadau anhygoel dw i wedi’u cael dros y deg tymor diwethaf, ond mae’r amser wedi dod imi wynebu her newydd,” meddai Hallam Amos.
“Mae hi wastad wedi bod yn fwriad gen i orffen pan dw i’n cwblhau fy ngradd, ac mae’r tymor hwn yn cyd-fynd yn dda â’m mlwyddyn olaf yn astudio meddygaeth, felly mae’n amser perffaith i symud o’r cae i’r ysbyty.”
Chwaraeodd Hallam Amos i Gymru am y tro cyntaf mewn gêm yn erbyn Tonga yn 2013 pan oedd yn 19 oed.
Mae ganddo 25 cap dros Gymru, bu’n rhan o dîm Cymru yng Nghwpanau’r Byd 2015 a 2019, ac enillodd ei gap diwethaf yn erbyn yr Ariannin fis Gorffennaf.
“Trwy gydol fy mlynyddoedd yn cyfuno prifysgol gyda gyrfa mewn rygbi dw i wedi cael llawer o gefnogaeth – gan Undeb Rygbi Cymru, gan y Dreigiau am flynyddoedd cyntaf fy ngyrfa, gan Rygbi Caerdydd yn fwy diweddar, a gan Brifysgol Caerdydd ei hun – a byddaf wastad yn ddiolchgar am eu parodrwydd i wneud lle i ddwy agwedd fy mywyd.
“Diolch arbennig i Dai (Young, cyfarwyddwr rygbi Caerdydd) a Wayne (Pivac, brif hyfforddwr Cymru) sydd wedi dangos dealltwriaeth dros yr ychydig wythnosau diwethaf wrth i mi siarad â nhw am y meddylfryd tu ôl i’m mhenderfyniad.
“Bydd ymddeol yn 27 yn bendant yn rhyfedd, ond dw i wedi ymroi’n llawn i Gaerdydd am weddill y tymor a gobeithio y gallaf gael diwedd da dros yr ychydig fisoedd nesaf.”
“Edmygu ei benderfyniad”
Mae Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd, Dai Young wedi cymeradwyo ei benderfyniad i ymddeol ar ei dermau ei hun, gydag addysg a chynllun at y dyfodol.
“Yn amlwg bydd hi’n siomedig colli chwaraewr o ansawdd fel Hallam ac mae ganddo ddigon o rygbi dal ynddo, ond allwch chi ond edmygu ei benderfyniad,” meddai Dai Young.
“Does dim llawer o chwaraewyr yn cael gadael ar eu termau eu hunain, ac mae symud o rygbi at yrfa llawn amser mewn meddygaeth yn golygu bydd ganddo yrfa hir a chynhyrchiol.
“Mae Hallam wedi gweithio’n arbennig o galed i jyglo rygbi a’i astudiaethau hyd at nawr, ac wedi llwyddo cymaint yn y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lefel ryngwladol.
“Bydd yn parhau’n ffigwr pwysig i ni am weddill y tymor a gall chwarae heb i’r penderfyniad bwyso arno.
“Am nawr, mae’n canolbwyntio ar Gaerdydd ac yn mwynhau ei rygbi, a haf nesaf byddwn ni’n dymuno’r gorau un iddo ar gyfer y dyfodol.”