Bydd Brok Harris yn dychwelyd i herio ei gyn-glwb, y Dreigiau, wrth iddyn nhw groesawu’r Stormers heno, 15 Hydref.
Roedd y prop o Dde Affrica yn chwarae yng Ngwent am saith mlynedd tan iddo fynd yn ôl i’r clwb yn ei famwlad dros yr haf.
Mae’r Stormers yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn rownd 4 y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gyda’r gêm yn fyw ar BBC Two Wales.
Bydd y gic gyntaf yn Rodney Parade heno am 8.35.
Tri newid i’r tîm
Mae rheolwr y Dreigiau Dean Ryan wedi gwneud tri newid i’r 15 cychwynnol, ar ôl buddugoliaeth glodwiw dros Connacht yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Ben Carter a Ross Moriarty, a gafodd eu henwi yng ngharfan Cymru’r wythnos hon, yn dychwelyd i ychwanegu safon i’r pac.
Hefyd, mae Gonzalo Bertranou o’r Ariannin yn dechrau am y tro cyntaf y tymor hwn yn safle’r mewnwr.
Ar yr asgell fydd Jonah Holmes, na chafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru er gwaetha’i berfformiadau disglair yn rowndiau cyntaf y tymor.
Mae’r Dreigiau wedi penderfynu rhoi chwe blaenwr ar y fainc hefyd, gan ddisgwyl gêm galed yn erbyn y gwŷr o Dde Affrica.
Dreigiau: Jordan Williams, Jonah Holmes, Jack Dixon, Aneurin Owen, Jordan Olowofela, Sam Davies, Gonzalo Bertranou; Greg Bateman, Elliot Dee, Mesake Doge, Will Rowlands, Ben Carter, Ross Moriarty (capten), Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Taylor Davies, Aki Seiuli, Chris Coleman, Joe Davies, Joe Maksymiw, Ollie Griffiths, Rhodri Williams, Josh Lewis.