Dylai holl gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol Cymru gael eu dangos am ddim ar y teledu, meddai Plaid Cymru.
Daw’r alwad wedi iddi ddod i’r amlwg na fydd gemau rygbi Cyfres yr Hydref Cymru yn cael eu dangos ar S4C, ond ar blatfform talu-i-wylio Amazon.
Mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, wedi gofyn am roi statws arbennig i gemau rygbi’r Hydref, gemau’r Chwe Gwlad a gemau rhyngwladol tîm pêl-droed Cymru, er mwyn iddyn nhw gael eu dangos ar deledu am ddim.
Yn sgil cytundeb gydag Amazon, ni fydd gemau rygbi cyfres yr Hydref yn cael eu dangos yn fyw am ddim ar y teledu eleni.
Dim ond uchafbwyntiau o’r gemau rhwng Cymru a Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia y bydd S4C yn dangos.
Llynedd, cafodd gemau Cymru eu dangos ar Amazon ac ar S4C, ond eleni bydd rhaid talu er mwyn gwylio’r gemau llawn ar Amazon, gyda’r uchafbwyntiau ar S4C wedyn.
Yn ôl Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan mae’r system bresennol o gategoreiddio chwaraeon ar gyfer darlledu yn “gweithio’n dda”.
“Siomedig”
Mewn llythyr at Ysgrifennydd Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain, Nadine Dorries, gofynnodd Heledd Fychan am roi statws Categori A i gemau rhyngwladol Cymru dan Ddeddf Darlledu 1996.
Byddai’r gemau’n ymuno â digwyddiadau megis gêm derfynol Cwpan yr FA, y Grand National a’r Gemau Olympaidd, sydd oll ar gael i’w gwylio am ddim.
Dywedodd Heledd Fychan yn y llythyr bod y trefniadau newydd yn “hynod siomedig”, a disgrifiodd rygbi fel gêm “sy’n ffurfio rhan o’n diwylliant a’n hunaniaeth ehangach”.
“Mae’r mwyafrif helaeth o gynulleidfa rygbi Cymru yn gwylio gemau o’u cartrefi neu o’u tafarn leol, nid yn y stadiwm. Drwy roi pris ar wylio cyfres yr Hydref mae cefnogwyr yn colli’r gallu i ddilyn eu tîm cenedlaethol, waeth beth yw eu hamgylchiadau personol,” meddai.
“Yn ogystal, mae chwaraeon ar S4C yn aml yn rhoi mynediad i nifer o ddysgwyr Cymraeg at yr iaith Gymraeg , ond bydd hynny’n cael ei golli yn sgil y penderfyniad, hwn sy’n gam yn ôl.”
Rhybuddiodd Heledd Fychan bod y cytundeb newydd yn “gosod sail beryglus ar gyfer dyfodol darlledu chwaraeon yn Gymraeg”.
“Nid yn unig mae S4C wedi colli’r hawl i ddarlledu gemau rygbi Cymru, ond mae’n gosod model a allai gael ei fabwysiadu gan ddarlledwyr eraill yn y dyfodol,” meddai.
“Mae rygbi Cymru yn berchen i bawb yng Nghymru – rhaid i ni beidio â chael ein prisio allan o’n diwylliant ein hunain.”
“Gweithio’n dda”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan wrth y BBC eu bod nhw’n credu bod y drefn bresennol yn “gweithio’n dda ac yn dod o hyd i gydbwysedd addas rhwng cadw chwaraeon ar deledu am ddim i’r cyhoeddus tra’n caniatáu i ddalwyr yr hawliau drafod cytundebau er budd eu chwaraeon”.
“Rydyn ni’n cefnogi’r cyfraniad cadarnhaol mae S4C yn ei wneud tuag at economi Cymru a’r rôl hanfodol sydd ganddo’n hybu’n iaith Gymraeg.”