Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn dangos uchafbwyntiau o bob gêm Cymru yn ystod Cyfres yr Hydref, ond ni fydd yn darlledu yr un gêm yn fyw.

Bydd Cymru yn croesawu Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia i’r Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn ystod Hydref a Thachwedd.

O ganlyniad i gytundeb gyda deiliaid yr hawliau darlledu, Amazon Prime, bydd uchafbwyntiau estynedig Cymraeg o bob gêm yn cael ei ddarlledu ar S4C awr ar ôl y chwiban olaf.

Bydd yr uchafbwyntiau hefyd i’w gweld ar S4C Clic yn dilyn darllediad y rhaglen.

Sarra Elgan fydd yn arwain tîm cyflwyno S4C yn ystod y gyfres, gyda Gareth Charles yn y blwch sylwebu a Rhodri Gomer yn gohebu.

Ymhlith y rhai fydd yn dadansoddi’r gemau bydd cyn-chwaraewyr Cymru, Gwyn Jones a Shane Williams, a’r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.

“Arlwy cynhwysfawr”

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae S4C yn falch i bartneru gydag Amazon Prime er mwyn sicrhau arlwy cynhwysfawr o Gyfres Hydref y Cenhedloedd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

“Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus am ddim i ddangos uchafbwyntiau o bob un o gemau Cymru yn ystod Cyfres Hydref y Cenhedloedd, fe fyddwn ni ar yr awyr awr ar ôl y chwiban olaf gyda’r holl uchafbwyntiau a’r ymateb.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eich cwmni.”