Mae gŵyl lenyddol newydd am gael ei lansio ym Machynlleth eleni, gyda’r digwyddiad cyntaf yn talu teyrnged i awdures o Gymru.
Bydd Gŵyl Deithio a Llenyddiaeth Amdani, Fachynlleth! yn cael ei chynnal ar benwythnos 26 i 28 Tachwedd, a bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg.
Eleni, bydd yr ŵyl gyntaf yn talu teyrnged i’r awdur a’r hanesydd Jan Morris, flwyddyn ar ôl iddi farw ym mis Tachwedd 2020.
Yn ystod y penwythnos, bydd rhai o’i darluniau yn cael eu harddangos am y tro cyntaf erioed, a bydd nifer o siaradwyr gwadd yn trafod y testun teithio yng Nghymru – sef un o ddiddordebau mwyaf Jan Morris.
Bydd ei mab, Twm Morys, yn agor a chau’r ŵyl yn swyddogol, gyda rhai o leoliadau’r penwythnos yn cynnwys Gwesty’r Wynnstay a chanolfan Y Tabernacl.
Ymysg y siaradwyr eraill o Gymru fydd yr artistiaid Iwan Bala a Dan Llywelyn Hall, a’r awduron Angharad Price a Mike Parker.
“Dipyn o anrhydedd”
Fe siaradodd Twm Morys, mab Jan Morris, am y gydnabyddiaeth arbennig.
“Fyddai hi wedi licio hyn yn fawr iawn,” meddai wrth golwg360.
“Oedd hi’n ’nabod Machynlleth yn dda iawn, ac oedd ganddi ffrindiau da yno.
“Mi wnaeth hi sgwennu llyfr am Fachynlleth hefyd.
“Mae hi’n dipyn o anrhydedd bod yr ŵyl gyntaf yn cael ei chyflwyno i Jan.
“Y themâu fydd yn cael eu trafod yr ŵyl ydi lle a theithio, a’r bwriad ydi ei chynnal hi bob blwyddyn efo gwahanol bwyslais a gwahanol siaradwyr ac yn y blaen.”
Mae tocynnau ar gael nawr am £10 yr un ar wefan www.moma.cymru.