Mae cynhyrchydd ifanc wedi cyflogi tri o weithwyr ac agor swyddfa newydd i’w gwmni yng nghanolfan S4C, Yr Egin.

Fe symudodd cwmni cynhyrchu Carlam o’u safle blaenorol yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe i’w swyddfa newydd yng Nghaerfyrddin dri mis yn ôl.

Ers i’r swyddfa honno agor, maen nhw wedi cyflogi dau aelod o staff ifanc o Orllewin Cymru a chynhyrchu deunydd ar gyfer y platfform teledu lleol newydd Shwmae Sir Gâr.

Dros y blynyddoedd, mae Carlam wedi bod yn gyfrifol am raglenni fel Our Lives: The City of Horses ar sianel BBC One, yn ogystal â Siwrne’r Bedol a Drych: Galar yn y Cwm ar S4C.

“Hynod o ddiolchgar”

Fe symudodd Euros Llŷr Morgan, sy’n berchen ar y cwmni, i’r ganolfan ar gampws prifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin er mwyn bod yn rhan o gymuned sy’n ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg.

Roedd Euros yn gyn-fyfyriwr o’r brifysgol, gan astudio’r cwrs BA perfformio yno cyn graddio yn 2018.

“Wrth i gwmni Carlam dyfu a datblygu, roeddwn yn ymwybodol byddai cael swyddfa yn Yr Egin yn agor drysau i mi,” meddai.

“Ers symud yma, dwi wedi llwyddo i greu nifer o gysylltiadau newydd sydd wedi dod a chyfleoedd gwaith ychwanegol i mi yn ogystal.

“Mae’r Egin yn leoliad sy’n fy ngalluogi i ddatblygu, ac i ddysgu rhywbeth newydd pob dydd.

“Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Brifysgol, i Ganolfan S4C Yr Egin ac i bawb sydd wedi fy helpu i fedru gwireddu hyn o’r cwmnïau i’r unigolion– yn enwedig Amanda Harries, Artie Thomas a Rowena Griffin.

“Hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosib i Carlam dyfu i le mae erbyn hyn”

“Pleser mawr”

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, mai nod y safle o’r cychwyn oedd “cydleoli cwmnïau creadigol a digidol.”

“Mae’n bleser mawr croesawu cwmni arall i ymuno â’r gymuned sydd yma eisoes,” meddai.

“Rwy’n sicr y bydd Carlam yn ychwanegu at gyffro’r ganolfan ac mae’n braf iawn gweld cwmni cynhyrchu’n llwyddo ac yn mentro yn ystod y cyfnod heriol yma.

“Mae Euros wedi cael llwyddiannau arbennig yn y cwta 3 mlynedd ers sefydlu Carlam ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut bydd y cwmni yn datblygu tua’r dyfodol.”