Mae’r pyndit John Hartson wedi ymateb i sylwadau gohebydd a feirniadodd safon ei Gymraeg.

Dywedodd Hartson, a sgoriodd 14 gôl mewn 51 o gemau i Gymru, ei fod yn “falch iawn” o roi ei orau wrth siarad yr iaith.

Roedd o hefyd yn dweud, gyda thafod yn y boch, ei fod yn siarad Cymraeg gyda “thipyn o wenglish” – sef y rheswm pam bod y gohebydd, Rob Harries, yn anhapus.

Yn y post gwreiddiol ar Twitter, roedd Harries, sy’n ohebydd gyda’r Western Mail, yn nodi bod Hartson yn siarad ar S4C mewn “hanner Saesneg,” a bod hynny’n anodd i siaradwr rhugl i ddilyn.

Roedd yn galw am siaradwr sy’n fwy rhugl i wneud y gwaith dadansoddi ar raglen Sgorio, er bod Hartson wedi chwarae ar bron bob lefel o bêl-droed, yn cynnwys Uwchgynghrair Lloegr a Chynghrair y Pencampwyr.

Mae golwg360 wedi gofyn i Rob Harries am ymateb pellach i’w sylwadau.

Fe gafodd hynny ymateb chwyrn gan sawl un ar gyfryngau cymdeithasol, a oedd yn flin bod Harries wedi dangos diffyg cefnogaeth i bobol fel Hartson.

Roedd nifer yn honni bod y nifer helaeth o siaradwyr Cymraeg bellach yn defnyddio geiriau Saesneg wrth siarad yr iaith ar lafar, a bod Hartson yn adlewyrchu’r grŵp hynny o siaradwyr.

 

Roedd S4C hefyd wedi ymateb, gan ddweud bod John Hartson yn “sylwebydd profiadol sydd â hygrededd a dealltwriaeth wych o bêl-droed,” gan ychwanegu eu bod yn “falch” o’i gael yn rhan o’r tîm.

Bydd John Hartson yn ymddangos ar raglen Sgwrs o dan y Lloer heno (11 Hydref) am 22:00, yn dilyn gêm Cymru v Estonia ar S4C.

Darllenwch y stori wreiddiol ar ein gwefan yn fan hyn:

Ymateb cryf i honiad fod ‘hanner y geiriau a ddefnyddia John Hartson ar S4C yn Saesneg’

‘Annheg iawn. Mae o deulu di-Gymraeg. Dwi’n falch gweld pobl fel Hartson ar S4C. Dwi ddim yn hoffi heddlu iaith’