Bydd Tomas Lezana o’r Ariannin yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn yn erbyn y pencampwyr Leinster.

Mae’r gêm yn cael ei chynnal yn Arena RDS yn Nulyn, a bydd hi’n fyw ar S4C am 5:15 o’r gloch.

Mae Tomas Lezana wedi gwella o anaf a gafodd tra ar ddyletswydd ryngwladol gyda’r Pumas a bydd yn rhan o dîm Scarlets sydd â saith newid i’r tîm gollodd gartref yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf.

Ioan Nicholas fydd yn dechrau yn safle’r cefnwr, gyda Johnny McNicholl yn symud i’r asgell.

Bydd y capten Jonathan Davies yn creu partneriaeth gyda Johnny Williams yn safle’r canolwyr, ac mae Sam Costelow a Gareth Davies yn cadw eu llefydd fel maswr a mewnwr.

Yn safle’r blaenwyr, bydd y tri Chymro Wyn Jones, Ken Owens a WillGriff John yn chwarae.

“Herio’r pencampwyr”

Ar drothwy’r ornest, dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel:

“Rydym yn herio’r pencampwyr yn eu cartref nhw felly does dim opsiwn ond bod ar ein gorau.

“Rhaid inni fod yn ddisgybledig, rhaid inni fod ar ein marc yn amddiffynnol a rhaid inni gymryd ein cyfleoedd.

“Mae’n gêm yn erbyn tîm o’r safon uchaf, rydych yn sôn am lefel Prawf a dyna ansawdd y tîm yr ydym yn ei wynebu.

“Mae’n rhaid i ni fod yn dda ym mhob ardal, mae hi mor syml â hynny.”

Tîm y Scarlets: 15 Ioan Nicholas; 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies (capten), 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens, 3 WillGriff John, 4 Sam Lousi, 5 Lloyd Ashley, 6 Aaron Shingler, 7 Tomas Lezana, 8 Blade Thomson

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Rob Evans, 18 Samson Lee, 19 Morgan Jones, 20 Shaun Evans, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Tom Rogers.