Mae Gleision Caerdydd wedi cynnwys deg o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn y garfan fydd yn herio Cell C Sharks yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Bydd y gic gyntaf ar Barc yr Arfau am 7:35 heno (dydd Sadwrn, 16 Hydref).

Josh Turnbull fydd y capten wrth i Dai Young wneud saith newid i’r tîm gafodd eu trechu gan y Vodacom Bulls yr wythnos ddiwethaf.

Bydd Dillion Lewis yn chwarae gyda Rhys Carré a Kyrbi Myhill yn y rheng flaen, tra bod Rory Thornton yn cymryd lle Matthew Screech yn yr ail reng.

Tomos Williams fydd yn chwarae yn safle’r mewnwr, gyda Rhys Priestland yn chwarae yn safle’r maswr.

Mae Josh Adams yn cadw ei le ar yr asgell gyda Aled Summerhill ar yr ochr arall, tra bod Hallam Amos yn colli ei le i Matthew Morgan.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi, Dai Young:

“Yr wythnos ddiwethaf cawsom berfformiad hanner cyntaf cadarnhaol iawn, ond fe wnaethom adael i hynny lithro yn yr ail hanner.

“Felly mae’r wythnos hon wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion, oherwydd mae’n rhy hawdd tynnu sylw at y problemau.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu y byddwn ni’n colli momentwm mewn gemau. Ond mae angen i ni wybod sut i gael y momentwm hwnnw’n ôl.

“Rydym yn edrych ymlaen at y gêm.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni wella.”

Tim Caerdydd: Matthew Morgan; Aled Summerhill, Owen Lane, Willis Halaholo, Josh Adams; Rhys Priestland, Tomos Williams; Rhys Carré, Kirby Myhill, Dillon Lewis, Seb Davies, Rory Thornton, Josh Turnbull (C), Ellis Jenkins, Will Boyde

Eilyddion: Kristian Dacey, Rhys Gill, Dmitri Arhip, Teddy Williams, Shane Lewis-Hughes, Lloyd Williams, Ben Thomas, Hallam Amos