Cyfartal oedd y sgôr yn Exeter y pnawn yma wrth i Gasnewydd a’r tîm cartref lwyddo i sgorio dwy gôl yr un.

Dechreuodd Casnewydd fel y tîm gorau ac fe aethon nhw ar y blaen ar ôl 12 munud, wrth i Robbie Willmott danio ergyd isel i’r gornel bellaf.

Cymerodd 10 munud i Exeter City ymateb wrth i Matt Jay ergydio o bell.

Roedd Casnewydd yn ôl ar y blaen ar 28 munud pan wnaeth Courtney Baker-Richards gymryd ei siawns o bellter a golwr Exeter, Cam Dawson, yn gadael y bêl i mewn wrth y postyn agosaf.

Arhosodd Casnewydd ar y blaen nes i Exeter unioni’r sgôr eto ar ôl 55 munud, pan gododd Sam Nombe y bêl o gornel y blwch cosbi a’i chyrlio i gornel bellach y gôl.

Er i’r ddau dîm gael cyfle arall i fynd ar y blaen, aros yr un fath a wnaeth y sgôr, wrth i Exeter orffen eu hwythfed gêm gyfartal mewn 12 gêm Cynghrair Dau.