Mae hi’n benwythnos y gêm ddarbi bêl-droed fwyaf ffyrnig yng Nghymru gyda Chaerdydd yn teithio i Abertawe.

Mae’r gic gyntaf yn Stadiwm Swansea.com am hanner dydd yfory, dydd Sul, 17 Hydref.

Cyn y gêm mae gan y ddau dîm 11 pwynt yn y Bencampwriaeth a dim ond gwahaniaeth goliau sy’n eu gwahanu.

Ar ben hynny, mae’r ddau dîm ddim ond triphwynt oddi ar y safleoedd disgyn yn dilyn dechreuadau gwael i’w tymhorau.

Mae Caerdydd wedi colli eu pum gêm ddiwethaf, ar ôl cael rhediad boddhaol ar ddechrau’r tymor, tra bod Abertawe fel arall – yn araf oddi ar y llinell ddechrau, ond yn casglu mwy o bwyntiau yn ddiweddar.

Caerdydd oedd yn dathlu wedi’r gêm ddarbi ddiwethaf yn erbyn Abertawe, gyda gôl Aden Flint yn selio’r fuddugoliaeth bryd hynny.

Er gwaetha’r elyniaeth, bydd y ddau glwb yn ymuno i ddanfon neges gref yn erbyn hiliaeth cyn ac yn ystod y gêm.

Newyddion y timau

Fe gyhoeddodd rheolwr Abertawe yng nghanol yr wythnos y bydd pob un o’i chwaraewyr ar gael iddo ar gyfer y gêm ddarbi – gyda Ryan Bennett, Olivier Ntcham a Michael Obafemi yn dychwelyd o anafiadau.

Roedd Ethan Laird a Ryan Manning wedi gorfod gadael eu carfannau rhyngwladol nhw yn ystod yr wythnos, ond fyddan nhw’n holliach erbyn dydd Sul.

Bydd Caerdydd yn hapus hefyd, gan mai dim ond un absenoldeb sydd yn eu carfan nhw, sef Tom Sang.

Ar ôl sgorio i Gymru ddechrau’r wythnos, bydd Kieffer Moore yn gobeithio ailadrodd hynny i Gaerdydd dros y penwythnos, gan ei fod heb sgorio ers mis Awst.

Bydd y Cymry Will Vaulks a Ben Cabango bron yn sicr yn dechrau’r gêm i Gaerdydd, gyda Rubin Colwill, Brandon Cooper a Liam Cullen hefyd ar gael.