Mae dyn wedi pledio’n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala.

Cafodd Sala ei ladd fis Ionawr 2019 wrth iddo gael ei gludo mewn awyren o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd, ar ôl iddo ymuno â’r Adar Gleision.

Daeth ymchwilwyr o hyd i gorff y pêl-droediwr fis yn ddiweddarach, ond dydy corff y peilot David Ibbotson erioed wedi ei ganfod.

Roedd David Henderson, gŵr 66 oed o Swydd Efrog, wedi ei amau o drefnu’r hediad, ac roedd o’n wynebu achos yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun, Hydref 18).

Roedd yn wynebu un cyhuddiad o geisio rhyddhau teithiwr heb fod ganddo ganiatâd nac awdurdod – ac fe blediodd Henderson yn euog i hynny.

Yn ogystal, roedd yn cael ei gyhuddo o beryglu diogelwch yr awyren, ond fe wadodd o hynny.

Honiadau

Clywodd gwrandawiad fis Hydref y llynedd fod trwydded David Ibbotson i hedfan awyren fasnachol wedi dirwyn i ben ym mis Tachwedd 2018.

Roedd adroddiad blaenorol yr AAIB (Cangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr) wedi adrodd fod y peilot yn hedfan yn rhy gyflym a’i fod e wedi colli rheolaeth mewn tywydd garw a bod yr awyren wedi chwalu yn yr awyr.

Ychwanegodd yr adroddiad hwnnw’r posibilrwydd fod y peilot wedi’i wenwyno gan garbon monocsid.

Ond doedd e ddim wedi cael hyfforddiant i hedfan awyrennau yn y nos ac mae lle i gredu bod hynny wedi cyfrannu at y digwyddiad.

Doedd ei drwydded ddim yn ei alluogi i hedfan awyrennau masnachol yn gyfnewid am roddion.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei ohirio tan ar ôl achos llys David Henderson.

Mae disgwyl i achos llys David Henderson bara 10 diwrnod.

Emiliano Sala: Dyn yn y llys ar gyhuddiad yn ymwneud â’r ddamwain awyren

David Henderson, 66, wedi’i gyhuddo o ymddwyn mewn modd “byrbwyll/esgeulus” gan yr Awdurdod Hedfan Sifil
Gweddillion yr awyren oedd yn cludo'r pel-droediwr Emiliano Sala o Nantes I Gaerdydd

Emiliano Sala: cyhoeddi adroddiad terfynol i ddamwain awyren

Bu farw’r pêl-droediwr a’r peilot ar Ionawr 29 2019

Agor cwest i farwolaeth Emiliano Sala

Corff peldroediwr Caerdydd wedi ei godi o weddillion awyren ger Guernsey