Fydd dau o sêr tîm rygbi De Affrica ddim yn wynebu Cymru yng ngemau’r hydref ar ôl iddyn nhw gael eu hepgor o’r garfan oherwydd anafiadau.
Roedd Faf de Klerk a Cheslin Kolbe yn rhan o’r tîm enillodd Gwpan y Byd ddwy flynedd yn ôl.
Ond fyddan nhw ddim ar gael i herio Cymru, yr Alban na Lloegr.
Mae gan y mewnwr De Klerk anaf i’w glin ac mae’n bosib y gallai fod allan am bum mis, ac mae’r asgellwr Kolbe wedi anafu ei ben-glin.
Mae Pieter-Steph du Toit, chwaraewr y flwyddyn yn fyd-eang, allan o hyd ag anaf i’w ysgwydd.
Mae Frans Malherbe allan ag anaf i’w wddf ac RG Snyman wedi anafu ei ben-glin.
Ymhlith y wynebau newydd yn y garfan mae’r clo Salmaan Moerat a’r mewnwr Grant Williams.
Bydd De Affrica’n herio Cymru yng Nghaerdydd ar Dachwedd 6 cyn herio’r Alban ym Murrayfield ar Dachwedd 13, a Lloegr yn Twickenham ar Dachwedd 20.