Mae Ole Gunnar Solskjaer, rheolwr tîm pêl-droed Manchester United, wedi bod yn egluro’i sylwadau am Marcus Rashford, ar ôl dweud y dylai’r ymosodwr “flaenoriaethu a chanolbwyntio ar bêl-droed”.
Daeth yr ymosodwr 24 oed i amlygrwydd y byd gwleidyddol yn ystod y pandemig Covid-19, wrth iddo fe ymgyrchu ym meysydd tlodi bwyd, Credyd Cynhwysol ac addysg.
Fis Hydref 2019, fe wnaeth e sefydlu ymgyrch i sicrhau bod gan bobol ddigartref nwyddau hanfodol dros gyfnod y Nadolig.
Fis Mawrth y llynedd, fe fu’n helpu i ddosbarthu miliynau o brydau bwyd i blant oedd yn methu derbyn prydau bwyd am ddim yn yr ysgol wrth i ysgolion gau yn sgil Covid-19.
Fis Mehefin, galwodd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â thlodi plant i ben, ac fe arweiniodd hynny ddiwrnod yn ddiweddarach at gyhoeddiad gan y llywodraeth y byddai’r cynllun prydau bwyd yn cael ei ymestyn dros yr haf.
Fis Medi, cyhoeddodd Rashford fod gweithgor wedi cael ei sefydlu ar y cyd â siopau bwyd, gweithgynhyrchwyr, elusennau a chwmnïau dosbarthu bwyd, ond roedd yn feirniadol o ddiffyg ymateb Llywodraeth Prydain.
Cafodd ei anrhydeddu ag MBE ym mis Hydref ac wythnos yn ddiweddarach, sefydlodd e ddeiseb yn galw ar y llywodraeth i ddod â thlodi plant i ben, gan ddenu dros 100,000 o lofnodion o fewn deg awr.
Er y bu dadl yn San Steffan wedyn, cafodd cynnig Llafur i ymestyn prydau bwyd am ddim mewn ysgolion ei drechu o fwyafrif o 61, ac fe gyhuddodd Rashford y rhai oedd wedi pleidleisio yn ei erbyn o fod yn annynol.
Arweiniodd hynny at ddefnyddio’i gyfrif Twitter i hyrwyddo busnesau oedd yn barod i helpu pobol ddifreintiedig, ac fe gafodd e gefnogaeth Andy Burnham, Maer Manceinion ac elusennau i ddarparu 1,000 o dalebau bwyd dros hanner tymor.
Fis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw am gynnig £400m dros 12 mis i helpu i ariannu bwyd a biliau teuluoedd tlawd.
Fis Ionawr eleni, roedd yn feirniadol o gwmni Chartwells am ddarparu pecynnau bwyd “annerbyniol”, ac roedd pwysau ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i gynnal ymchwiliad i’r sefyllfa – yn sgil hyn, fe wnaeth Johnson ddweud bod Rashford yn wrthwynebydd mwy effeithiol na Syr Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan.
Fis Ebrill eleni, cydweithiodd Rashford â’r cogydd Tom Kerridge i lansio cyfres o ryseitiau a fideos coginio ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod modd i bobol deimlo’n hyderus wrth goginio prydau syml.
Fis Hydref y llynedd, fe fu’n feirniadol o bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Canghellor Rishi Sunak ar Gredyd Cynhwysol o beidio â gwneud y cynnydd o £20 yn un parhaol.
Cydnabyddiaeth
Yn sgil ei ymdrechion, mae Marcus Rashford wedi cael ei ganmol gan unigolion o sawl maes gwahanol – o’r byd cerddorol i’r byd chwaraeon.
Fis Gorffennaf y llynedd, derbyniodd e ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Manceinion am ei waith ym maes tlodi plant – y person ieuengaf i dderbyn y wobr gan y brifysgol.
Fis Hydref, derbyniodd Rashford MBE a Gwobr Dinas Manceinion am ei gyfraniad i’r ddinas.
Cafodd e gydnabyddiaeth hefyd yng ngwobrau Pride of Britain yn 2020, ac mae e bellach yn destun murlun gan Akse, yr arlunydd stryd.
Cafodd ei enwi’n Ymgyrchydd y Flwyddyn 2020 yng ngwobrau Dyn y Flwyddyn cylchgrawn GQ, ac fe dderbyniodd e wobr cyfraniad arbennig yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2020.
Derbyniodd e wobr Sefydliad FIFA 2020 ac fe gafodd ei gynnwys ar restr o’r dynion du mwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan Powerlist.
Cafodd ei enwi’n Bêl-droediwr y Flwyddyn y Guardian ym mis Ionawr – gwobr sy’n cydnabod cyfraniad eithriadol oddi ar y cae. Mae e hefyd wedi derbyn gwobrau gan Time, Forbes, y Gymdeithas Awduron Pêl-droed a’r Sunday Times.
Derbyniodd e wobr gan undeb addysg NEU am ei waith wrth ymgyrchu tros brydau bwyd am ddim mewn ysgolion.
Ym maes llythrennedd, roedd Rashford yn un o nifer o enwogion oedd wedi cefnogi ymgyrch i helpu i rannu miliwn o storïau, ac fe fu’n beirniadu cystadlaeuth farddoni i blant â nam ar eu clyw, ac fe ddysgodd e rywfaint o iaith arwyddo ar gyfer yr achlysur.
Fis Tachwedd, roedd e’n un o sylfaenwyr clwb darllen i helpu plant difreintiedig i gael mynediad at lyfrau ac fe gyhoeddodd ei lyfr ei hun fel rhan o’r ymgyrch, gyda 50,000 o gopïau wedi’u dosbarthu, a’r bwriad yw cyhoeddi dau lyfr bob blwyddyn.
Sylwadau ei reolwr
Cyn i Marcus Rashford sgorio yn erbyn Leicester City ar ôl dychwelyd i’r tîm yn dilyn anaf, dywedodd Ole Gunnar Solskjaer y dylai “flaenoriaethu a chanolbwyntio ar ei bêl-droed efallai”.
Mae e bellach wedi egluro’r sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg cyn y gêm yn erbyn Atalanta.
“Wrth gwrs ein bod ni’n eithriadol o falch o’r hyn mae Marcus wedi’i wneud ar y cae ac oddi arno,” meddai.
“Ac rydych chi’n gwybod beth ddywedais i ac fe wnaethoch chi bennawd allan o un sylw bach nad oeddwn i fyth yn bwriadu iddo fod yn ganolbwynt i’r hyn roeddwn i’n ei ddweud.
“Ro’n i’n dweud am Marcus a’r ffaith fod rhaid ei bod hi’n braf i’r boi fod yn canolbwyntio ar fynd i ymarfer, ac nid yn teimlo’i ffêr na’i ysgwydd na’i gefn.
“Nawr, mae e’n gallu mynd i fwynhau ei bêl-droed a dw i’n credu eich bod chi i gyd yn gwybod hynny.”