Bydd maswr Cymru Jarrod Evans yn dychwelyd i dîm Rygbi Caerdydd wrth iddyn nhw herio’r Dreigiau ar Barc yr Arfau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn (Hydref 23).

Mae’r gic gyntaf am 5:15 a bydd sylwebaeth byw ar BBC Radio Wales.

Dydy Evans ddim wedi chwarae ers gêm gyntaf y tymor yn erbyn Connacht ym mis Medi, pan gafodd e anaf i’w sternwm.

Yn y cyfamser, mae maswr arall y clwb, Rhys Priestland, am fethu’r gêm gan ei fod e gyda charfan Cymru.

“Mae e ar gael,” meddai cyfarwyddwr rygbi Gleision Caerdydd, Dai Young am ffitrwydd Jarrod Evans.

“Roedd yn ei chael hi’n anodd bod yn ffit ar gyfer y gêm y penwythnos diwethaf (yn erbyn Sharks) ond mae’n edrych ymlaen at yr wythnos hon ac rydym yn falch o’i gael yn ôl.”

‘Trueni’

Mae deg o chwaraewyr Caerdydd yn rhan o garfan ddiweddaraf Wayne Pivac, tra bod chwech o chwaraewyr y Dreigiau wedi’u cynnwys.

Dywed Dai Young ei bod hi’n “drueni” nad yw 16 o chwaraewyr rhyngwladol ar gael ar gyfer darbi de-ddwyrain Cymru.

“Rwy’n deall pam nad oes gennym ein chwaraewyr rhyngwladol ond mae’n drueni oherwydd ein bod i gyd yn edrych ymlaen at y gemau darbi ac yn gobeithio cael ein holl chwaraewyr gorau ar y cae yn y gemau hynny,” meddai.

“Mae’n drueni ond dyna’r sefyllfa ac nid yw’n newid y ffaith, pan fydd Caerdydd yn herio’r Dreigiau, ei bod yn gêm fawr a bydd y ddau dîm eisiau ennill.”