Dangosodd clwb pêl-droed Bournemouth eu cefnogaeth deimladwy i David Brooks, sydd wedi cael diagnosis canser, mewn gêm oddi cartref ym Mryste.

Datgelodd Brooks, 24, chwaraewr rhyngwladol Cymru, yr wythnos ddiwethaf ei fod wedi cael diagnosis o lymffoma Hodgkin cam dau.

Fe wnaeth Brooks, 24, sy’n chwarae i Bournemouth, dynnu allan o gemau rhagbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd dros yr hydref yn sgil salwch a dywedodd y bydd yn dechrau ei driniaeth yr wythnos nesaf.

Meddai: “Er bod hyn wedi dod fel sioc i fi a fy nheulu, mae’r prognosis yn un cadarnhaol a dw i’n hyderus y byddaf yn gwella’n llawn ac yn ôl yn chwarae cyn gynted â phosib.

Gwerthfawrogiad

“Hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad i’r meddygon, nyrsys, ymgynghorwyr a’r staff sydd wedi bod yn gofalu amdanaf am eu proffesiynoldeb, eu cynhesrwydd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

“Dw i eisiau diolch i bawb yng Nghymdeithas Pêl-droed Cymru oherwydd heb sylw brys eu tîm meddygol efallai na fydden ni wedi adnabod y salwch.”

Ddoe gwisgodd chwaraewyr Bournemouth grysau-T cyn y gêm gyda’r geiriau: “TOGETHER AS ONE, STAY STRONG, BROOKSY”.

A phan ddechreuodd gefnogwyr Bournemouth guro dwylo yn y seithfed munud i nodi eu cefnogaeth i Brooks, sy’n gwisgo’r crys rhif saith, fe ymunodd cefnogwyr y clwb cartref, Bristol City, hefyd i gymeradwyo’n dwymgalon yn stadiwm Ashton Gate.

Dathlu

Mae Bournemouth ar frig y Bencampwriaeth ac fe ddangosodd Jamal Lowe ei gefnogaeth i Brooks wrth ddathlu y gôl gyntaf mewn gêm a enillodd Bournemouth o 0-3.

Rhedodd Lowe at un o ffotograffwyr Bournemouth oedd wedi cadw crys rhif saith David Brooks yn barod iddo y tu ôl i’r gôl ar gyfer dathliad o’r fath.

Yna, casglodd chwaraewyr Bournemouth o amgylch Lowe ac fe wnaeth cefnogwyr Bristol City hefyd godi o’u seddi mewn cymeradwyaeth.

Wedi’r gêm, dywedodd capten Bournemouth Lloyd Kelly: “Roedden ni jyst eisiau gwneud rhywbeth arbennig i David Brooks. Mae o yn bendant yn ein meddyliau ni i gyd.”