Cafodd Kayleigh Green noson gymysg yng nghrys pêl-droed Cymru neithiwr (nos Wener, Hydref 22), wrth iddi weld cerdyn coch ar ôl sgorio yn y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Slofenia oedd wedi gorffen yn gyfartal 1-1 yn Lendava.
Hon oedd 200fed gêm tîm Cymru.
Peniodd Rhiannon Roberts at y gôl ddwywaith wrth iddi gadw’r golwr Zala Mersnik ar flaenau ei thraed, a bu bron i Mateja Zver gipio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref wrth iddi ergydio dros y trawst cyn yr egwyl.
Aeth ergyd Spela Kolbl heibio’r postyn ar ddechrau’r ail hanner, tra bu’n rhaid i Mersnik ymateb i ergyd Green oddi ar groesiad isel Natasha Harding o’r asgell dde a pheniad Jess Fishlock.
Sgoriodd Slofenia gôl gynta’r gêm ar ôl 69 munud wrth i’r eilydd Manja Rogan ganfod y gôl o ymyl y cwrt cosbi i guro O’Sullivan.
Ddwy funud yn ddiweddarach, peniodd Green i’r gôl oddi ar gic rydd Angharad James.
Ond chwarter awr cyn y diwedd, gwelodd Green ail gerdyn melyn am dacl flêr.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n parhau’n ddi-guro yn eu grŵp, a hynny yn dilyn buddugoliaethau dros Kazakhstan ac Estonia wrth iddyn nhw geisio cyrraedd cystadleuaeth fawr am y tro cyntaf.
Ffrainc sydd ar frig y grŵp, ac fe fydd Cymru’n croesawu Estonia i Gaerdydd nos Fawrth (Hydref 26).