Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi bod y rheolwr Mick McCarthy wedi gadael ei swydd.
Daw’r newyddion ar ôl y golled o 2-0 gartref yn erbyn Middlesbrough heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 23).
Roedd yr ymwelwyr yn fuddugol o 2-0 wrth i gefnogwyr y tîm cartref ganu enw Warnock a dangos eu dicter tuag at eu rheolwr presennol, gyda’r Adar Gleision bellach wedi colli chwe gêm yn olynol ar eu tomen eu hunain ac wyth yn olynol ar y cyfan.
Roedd yr ysgrifen ar y mur cyn y ddwy golled ddiwethaf, a doedd McCarthy ddim yn bresennol ar gyfer cynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm ddiweddaraf heddiw.
“Gall Clwb Pêl-droed Caerdydd gadarnhau fod rheolwr y tîm cyntaf Mick McCarthy a’r rheolwr cynorthwyol Terry Connor wedi gadael y clwb trwy gydsyniad ac ar unwaith,” meddai’r clwb mewn datganiad.
“Hoffem ddiolch i Mick a Terry am eu hymdrechion yn ystod eu hamser gyda’r Adar Gleision, ac rydym yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”
Bydd Steve Morison a Tom Ramasut yn gyfrifol am y tîm am y tro, wrth i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr chwilio am reolwr newydd.