Roedd siom i dîm pêl-droed Abertawe yn Birmingham wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn y Bencampwriaeth, tra bod buddugoliaethau oddi cartref i Gasnewydd yn Bristol Rovers ac i Wrecsam yn Barnet.

Yn gynharach heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 23), collodd Caerdydd o 2-0 gartref yn erbyn Middlesbrough cyn i Mick McCarthy adael ei swydd yn rheolwr.

Birmingham 2-1 Abertawe

Sgoriodd y capten Troy Deeney un gôl a chreu’r llall i Birmingham wrth iddyn nhw guro Abertawe o 2-1 yn St. Andrew’s.

Cyn y gêm hon, roedd y tîm cartref heb fuddugoliaeth mewn saith gêm.

Dychwelodd Deeney i’r tîm a chael ei enwi’n gapten cyn cael chwip o gêm.

Rhwydodd Michael Obafemi am y tro cyntaf i’r Elyrch wrth iddyn nhw ddod yn agos at gipio pwynt gwerthfawr, ond rhwydodd Riley McGree y gôl fuddugol ar yr ail gyfle wrth i Deeney ei gynorthwyo ar ôl 81 munud.

Mae’r Elyrch yn aros yn y pymthegfed safle yn y Bencampwriaeth, gyda Birmingham un pwynt y tu ôl iddyn nhw.

Bristol Rovers 1-3 Casnewydd

Roedd llwyddiant i James Rowberry yn ei gêm gyntaf wrth y llyw wrth i dîm Casnewydd guro Bristol Rovers oddi cartref o 3-1.

Sgoriodd Dom Telford ddwy gôl i sichrau’r triphwynt.

Er bod y capten Matt Dolan allan ag anaf, aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Courtney Baker-Richardson wrth iddo fanteisio ar gynorthwy Jake Cain.

Sgoriodd Telford ei gôl gyntaf wedyn cyn i Brett Pitman daro cornel ucha’r rhwyd cyn yr egwyl.

Ond tarodd Telford yn ôl unwaith eto gyda chymorth Finn Azaz i sgorio’i seithfed gôl mewn naw gêm.

Barnet 0-3 Wrecsam

Roedd Wrecsam yn fuddugol yn Barnet o 3-0 yn dilyn dwy golled o’r bron.

Manteisiodd Paul Mullin ar gamgymeriad capten Barnet Harry Taylor i rwydo’i seithfed gôl y tymor hwn.

Dyblodd yr ymwelwyr eu mantais wedyn wrth i Aaron Hayden benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar dafliad hir Ben Tozer.

Ac fe wnaeth Shaun Brisley gau pen y mwdwl ar y gêm oddi ar gic rydd Jordan Davies.