Mae’r cyn-fenwr Mike Phillips yn dweud nad yw tîm rygbi Cymru erioed wedi llwyddo i gael mantais seicolegol dros Seland Newydd.
Daw ei sylwadau ar drothwy gêm fawr yr hydref rhwng y ddwy wlad.
Bydd y Crysau Duon yn dechrau eu taith yn Ewrop dydd Sadwrn gan wybod nad yw Cymru wedi eu curo nhw ers 1953.
Ers hynny, maen nhw wedi ennill 16 o gemau’n olynol yng Nghaerdydd a 31 ar y cyfan.
“Bob un, ydych chi i gyd yn creu eich bod chi’n mynd i ennill?” meddai Phillips.
“Mae’n cael ei blannu ynoch chi eu bod nhw’n rym mawr.
“Maen nhw’n fwy na thîm rygbi mewn nifer o ffyrdd.
“Nhw yw’r tîm mwyaf llwyddiannus ar y blaned, yn frand, ac rydych chi yn ei herbyn hi ym mhob ffordd.
“Efallai nad yw’r gred wedi bod yno yn y gorffennol.
“Efallai ein bod ni wedi bod yn rhy neis ar adegau ac wedi dangos gormod o barch.”
Digon o hyder i ennill
Collodd Mike Phillips saith gwaith yng nghrys Cymru yn erbyn Seland Newydd dros gyfnod o ddeuddeg mlynedd.
Enillodd e gyfanswm o 94 o gapiau dros ei wlad.
Ond mae’n credu bod gan y garfan bresennol ddigon o hyder i guro’r Crysau Duon sydd wedi ennill Cwpan y Byd dair gwaith.
Bydd Cymru hefyd yn herio Awstralia, Ffiji a De Affrica.
“Dw i’n credu bydd y fuddugoliaeth yn dod,” meddai Phillips.
“Dw i wedi cyffroi’n fawr.
“Pan fo’r holl chwaraewyr ar gael, mae gan Gymru garfan wych.
“Mae gyda ni ddyfnder mewn cynifer o safleoedd ac mae’n destun cyffroi gwirioneddol ddwy flynedd cyn Cwpan y Byd.
“Mae’r dyfodol yn edrych yn dda ac mae yna gred yn y genhedlaeth iau hon o chwaraewyr Cymreig.
“Enillon nhw’r Chwe Gwlad ac mae ganddyn nhw’r feddylfryd yma i ddweud ‘Pam lai?’
“Ond bydd rhaid iddyn nhw fod yn effeithlon ym mhob ffordd ac ar y bêl.”
Seland Newydd
Enillodd Seland Newydd Bencampwriaeth Rygbi 2021 wrth ennill pump allan o chwech o gemau yn erbyn yr Ariannin, Awstralia a De Affrica.
Ond daeth eu cystadleuaeth i ben gyda cholled o 31-29 yn erbyn De Affrica yn Awstralia wrth i bencampwyr y byd fanteisio ar eu gwendidau.
“Fe wnaethon nhw lawer o gamgymeriadau yn erbyn De Affrica,” meddai Phillips.
“Roedd llawer o beli wedi’u gollwng ac roedden nhw’n edrych yn dîm ifanc. Efallai bod modd cael atyn nhw.
“Maen nhw’n dîm rhagorol ac fe fydd yr ystadegau bob amser yn dweud y byddan nhw’n taro’n ôl.
“Ond mae gyda ni chwaraewyr sydd eisiau perfformio, rydyn ni yng Nghaerdydd â’r lle’n llawn a bydd yr awyrgylch yn wefreiddiol.
“Maen nhw’n dîm sy’n gallu cael eu curo, felly pam na all Cymru ei gwneud hi?”