Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn anelu i dorri’r record am y dorf fwyaf yn un o gemau cartref tîm pêl-droed merched Cymru wrth iddyn nhw herio Estonia nos Fawrth (Hydref 26).
Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn dechrau am 7.15yh.
Mae 4,000 o docynnau wedi’u gwerthu hyd yn hyn, a’r gobaith yw mynd y tu hwnt i’r record, sef 5,053 a gafodd ei gosod yn Rodney Parade ar gyfer y gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018.
Mae tîm Gemma Grainger yn ddi-guro yn eu hymgyrch y tro hwn, ac maen nhw wedi cael tri pherfformiad cadarnhaol, gan gynnwys y fuddugoliaeth swmpus o 6-0 dros Kazakhstan yn Llanelli.
£4 yw pris y tocynnau rhataf, ac maen nhw ar gael i’w prynu o wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rydyn ni wedi cyffroi o fod yn agos at dorri’r record ar gyfer y dorf ar gyfer gêm ryngwladol merched Cymru,” meddai Gemma Grainger.
“Mae mwy na 1,000 o’r tocynnau wedi’u prynu gan glybiau ieuenctid i ferched, ac mae’n wych gweld ein tîm cenedlaethol yn ysbrydoli sêr y dyfodol.
“Gobeithio y bydd y Wal Goch yn dod yn eu heidiau nos Fawrth ac y gallwn ni roi’r perfformiad iddyn nhw maen nhw’n ei haeddu.”