Mae Cwpan y Byd IT20 – prif gystadleuaeth ugain pelawd ryngwladol y byd – yn gyfle i dîm criced yr Alban wthio am statws gemau prawf, yn ôl un o’r chwaraewyr.

Mae’r Alban wedi cymhwyso ar gyfer rownd y 12 olaf ymhlith rhai o dimau mwya’r byd, ac mae Calum McLeod yn awyddus i weld ei wlad yn manteisio ar y cyfle i brofi y dylen nhw, fel Iwerddon, ennill yr hawl i chwarae mewn gemau prawf llawn.

Gorffennodd yr Alban ar frig eu grŵp yn y Gwlff gyda thair buddugoliaeth allan o dair, y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y rowndiau olaf.

Mae hynny’n golygu eu bod nhw wedi cymhwyso ar gyfer y Cwpan Byd nesaf yn Awstralia y flwyddyn nesaf.

Bydd eu gemau 12 olaf yn dechrau gyda gornest yn erbyn Affganistan fory (dydd Llun, Hydref 25) – ac maen nhw’n dîm arall oedd wedi cyrraedd uchelfannau’r gêm ryngwladol bedair blynedd yn ôl.

‘Pum cyfle gwych’

“Rydyn ni eisiau bod y brif wlad gysylltiol, ac rydyn ni eisiau gwthio ein hachos i fod yr aelod llawn nesaf,” meddai Calum McLeod.

“Dw i’n credu, os edrychwch chi’n benodol ar y ffordd roedd Affganistan ac Iwerddon wedi’i gwneud hi, fe wnaethon nhw hi o wneud yn dda yng Nghwpan y Byd.

“Nawr mae gyda ni bum cyfle gwych i fynd allan a ddangos i’r byd criced beth yw natur y sefydliad a’r tîm hwn.

“Dw i’n credu bod Criced yr Alban yn ei gyfanrwydd wedi bod yn aros am yr eiliad yma lle’r ydyn ni’n ei gwneud hi ar y llwyfan byd-eang.

“I’r chwaraewyr, mae’n gyfle gwych i ddangos rhai o’r sgiliau T20 sydd gan y grŵp yma ac i’w cael nhw allan yno ar y llwyfan byd-eang.

“Dydych chi byth yn gwybod pa fath o gyfleoedd all ddod o ganlyniad i hyn i rai o’r chwaraewyr os ydyn nhw’n cael grŵp da.”

Curo Bangladesh

Wrth orffen ar frig eu grŵp, cafodd yr Alban fuddugoliaeth annisgwyl dros Bangladesh, sy’n chweched ar restr ddetholion y byd mewn gemau ugain pelawd.

Ac mae McLeod yn dweud y bydd y tîm yn barod ar gyfer y gêm yn erbyn Affganistan a gweddill y gystadleuaeth, beth bynnag a ddaw.

“Dw i’n credu mai’r peth da o gael y rownd gyntaf yw ein bod ni wedi dod i mewn â hyder,” meddai.

“Rydyn ni’n amlwg wedi gorffen ar frig y grŵp gyda thair gêm dda o griced, felly dw i’n credu y byddwn ni’n dod i mewn i’r gêm yn hyderus.

“Hon fydd gêm gyntaf Affganistan yn y gystadleuaeth, a gallwn ni fynd i mewn yno a rhoi rhywfaint o bwysau arnyn nhw hefyd.”