Tair wythnos i fynd tan y gemau holl bwysig yn erbyn Belarws a Gwlad Belg, sut hwyl a gafodd y Cymry i’w clybiau’r penwythnos hwn?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Parhau y mae dechrau braidd yn siomedig Leeds i’r tymor yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan ac wedi hanner cyntaf gwael iawn, fe wnaeth Tyler Roberts, ymysg eraill, newid pethau oddi ar y fainc yn yr ail hanner.

Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey wrth i Burnley gael gêm gyfartal yn Southampton ac er i Connor Roberts fod ar y fainc i’w glwb newydd yr wythnos diwethaf, nid oedd yn y garfan ar gyfer y gêm ddiweddaraf ac ymddengys nad yw’r rheolwr, Sean Dyche, wedi ei argyhoeddi’n llwyr fod cefnwr Cymru’n holliach.

Ar ôl chwarae’r 90 munud yn yr Iseldiroedd ganol wythnos yn y golled yn erbyn Vitesse, dychwelyd i fainc Tottenham a wnaeth Joe Rodon a Ben Davies ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn West Ham ddydd Sul.

Ar ar y fainc yr oedd Fin Stevens a Danny Ward yn y gêm rhwng Brentford a Chaerlŷr hefyd ac nid oedd Neco Williams yn y garfan wrth i Lerpwl roi crasfa i Man U yn Old Trafford, er iddo gael munud neu ddau yn erbyn Atletico Madrid ganol wythnos.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Colled gartref o ddwy gôl i ddim yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn a oedd yr hoelen olaf yn arch Mick McCarthy fel rheolwr Caerdydd. Newyddion y bydd y mwyafrif o gefnogwyr Caerdydd yn ei groesawu mae’n siŵr ond newyddion gwael i Gymru o bosib. Yr hyn sydd wedi nodweddu misoedd olaf McCarthy wrth y llyw yw’r niferoedd o gyfleoedd y mae wedi eu rhoi i’r Cymry ifanc yn y garfan.

Dechreuodd Mark Harris a Rubin Colwill gêm olaf y rheolwr ac roedd munudau oddi ar y fainc i Isaak Davies. Chwaraeodd y profiadol Kieffer Moore a Will Vaulks hefyd. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Kieron Evans ond cafodd yntau ugain munud yn Fulham ganol wythnos. Dechreuodd Sam Bowen y gêm honno yn Craven Cottage hefyd ond nid oedd yn y garfan ar gyfer ymweliad Boro.

Roedd hi’n wythnos well i Abertawe, er iddi orffen gyda cholled ym Mirmingham ddydd Sadwrn. Daeth honno yn dilyn buddugoliaethau da yn erbyn Caerdydd a West Brom. Dechreuodd Ben Cabango yn erbyn y Baggies ganol wythnos ond roedd yn ôl ar y fainc ar gyfer y daith i St Andrew’s. Cafodd Cymro arall ychydig o funudau serch hynny wrth i Liam Cullen ddod ar y fainc.

Tom Bradshaw a oedd seren y penwythnos o safbwynt y Cymry, yn sgorio’r ddwy gôl ym muddugoliaeth Millwall o ddwy i un yn erbyn Stoke. Wedi i’w dîm fynd ar ei hôl hi yn yr hanner cyntaf fe sgoriodd y dyn o Dywyn ddwywaith mewn deg munud yn gynnar yn y ail gyfnod, a hynny ar ei ganfed ymddangosiad dros y clwb. Roedd James Chester a Joe Allen yn nhîm Stoke ond ildiodd Adam Davies ei le rhwng y pyst i Josef Bursik.

Mae Bournemouth bellach yn glir ar frig y Bencampwriaeth ar ôl curo Huddersfield o dair gôl i ddim. Ar y fainc yr oedd Chris Mepham i’r Cherries ond dechreuodd Sorba Thomas y gêm i’r Terriers.

Mae Luton Nathan Jones i fyny i’r pumed safle wrth i’w rhediad da hwy barhau gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Hull. Amddiffyn cadarn sydd wedi bod yn sail i’r rhediad hwnnw a dechreuodd Tom Lockyer fel un o dri yn y cefn unwaith eto. Nid oedd Matthew Smith yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Colli o ddwy gôl i ddim a fu hanes Andrew Hughes gyda Preston yn Blackpool. Nid oedd Ched Evans yng ngharfan Preston ac mae Chris Maxwell yn parhau i fod yn absennol i Blackpool oherwydd anaf.

Mae Derby’n aros ar waelod y tabl er gwaethaf pwynt parchus iawn oddi cartref yn Coventry. Cadwodd Tom Lawrence ei le yn y tîm ar ôl creu un a sgorio un yn erbyn Luton ganol wythnos.

Roedd 90 munud i Dave Cornell yn y gôl i Peterborough wrth iddynt guro QPR o ddwy gôl i un ond nid oedd Andy King yng ngharfan Bristol City wedi iddo ddioddef anaf yn erbyn Bournemouth y penwythnos diwethaf.

Nid oedd y cefnwyr chwith, Ben Williams a Rhys Norrington-Davies, yng ngharfannau Barnsley a Sheffield United yn y gêm gynnar ddydd Sul.

Dechreuodd Brennan Johnson i Nottingham Forest wrth iddynt groesawu Fulham i’r City Ground. Buddugoliaeth gyfforddus i’r ymwelwyr a oedd hi, gyda Harry Wislon yn creu’r drydedd o’u pedair gôl.

Harry Wilson

 

*

 

Cynghreiriau is

Tîm James Wilson a Luke Jephcott, Plymouth, sydd ar frig yr Adran Gyntaf yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn Morecambe ddydd Sadwrn. Chwaraeodd yr amddiffynnwr y gêm gyfan a chafodd y blaenwr 72 munud.

Wycombe sydd yn ail ar ôl trechu Crewe o ddwy gôl i un. Joe Jacobson a greodd gôl gyntaf ei dîm ac fe chwaraeodd Sam Vokes ran helaeth o’r gêm hefyd. Ar y fainc yr oedd Adam Przybek.

Curodd Wigan Wimbledon o ddwy gôl i ddim i godi i’r trydydd safle gyda Gwion Edwards yn chwarae’r chwarter awr olaf.

Chwaraeodd pedwar Cymro yng ngêm gyfartal ddwy gôl y un Bolton yn erbyn Gillingham. Dechreuodd Lloyd Isgrove, Jordan Williams a Josh Sheehan a dychwelodd Declan John i’r tîm yn dilyn anaf gan greu gôl hwyr Kieran Lee a achubodd bwynt i’w dîm.

Dwy gôl yr un a oedd hi wrth i Portsmouth ymweld ag Accrington hefyd. Dechreuodd Joe Morrell i Pompey ac roedd deuddeg munud oddi ar y fainc i Louis Thompson. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Kieran Freeman.

Chwaraeodd Lee Evans 90 munud ym muddugoliaeth Ipswich o ddwy gôl i un yn erbyn Fleetwood ac roedd hanner awr oddi ar y fainc i Wes Burns yn erbyn ei gyn glwb.

Adam Matthews a ddechreuodd fecefnwr de i Chralton yn Sunderland, ar draul Chris Gunter. Siawns y bydd yn cadw’i le hefyd wedi i’r tîm sydd yn straffaglu tua gwaelod y tabl sicrhau buddugoliaeth dda o gôl i ddim.

Chwaraeodd Regan Poole yng ngêm gyfartal Lincoln yn erbyn Sheffield Wednesday a chafodd Chris Norton funudau oddi ar y fainc wrth i Cheltenham golli yn Doncaster.

Yn yr Ail Adran, fe ddechreuodd Jonny Williams i Swindon yn erbyn Bradford ar ôl creu argraff oddi ar y fainc yr wythnos ddiwethaf. Di fflach a oedd Joniesta a’i dîm yr wythnos hon serch hynny, yn cael ei eilyddio toc wedi’r awr mewn colled o dair gôl i un.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Cododd Hearts i frig Uwch Gynghrair yr Alban dros nos gyda gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Dundee ddydd Sadwrn. Dechreuodd Ben Woodburn i’r tîm o Gaeredin cyn cael ei eilyddio ar yr egwyl.

Tîm arall sydd yn gwneud yn dda yw Dundee United, maent yn drydydd yn y tabl ar ôl trechu Motherwell o ddwy gôl i un, gyda Dylan Levitt yn chwarae’r gêm gyfan.

Dylan Levitt

Roedd buddugoliaeth o gôl i ddim i Ryan Hedges a Marley Watkins gydag Aberdeen yn erbyn Hibs, ond nid oes golwg o Christian Doidge yng ngharfan Hibs o hyd oherwydd anaf.

Ni fydd Daniel Barden yng ngharfan Livingston am sbel, cyhoeddwyd yr wythnos hon fod gôl-geidwad dan 21 Cymru sydd ar fenthyg yn yr Alban o Norwich wedi cael diagnosis o ganser y ceilliau. Cafodd Livingston fuddugoliaeth o dair gôl i ddwy yn erbyn Ross County ddydd Sadwrn, gydag Alex Samuel yn chwarae’r ugain munud olaf i’r gwrthwynebwyr.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, mae Dunfermline yn parhau i fod ar waelod y tabl yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Partick Thistle. Gôl yr un  a oedd hi gydag Owain Fôn Williams rhwng y pyst i’r Pars.

Yng Ngwlad Belg, roedd pwynt prin i Cercle Brugge yn erbyn Standard Liege. Chwaraeodd Rabbi Matondo y gêm gyfan fwy neu lai wrth iddi orffen yn gôl yr un.

Mae St. Pauli yn aros ar frig y 2.Bundesliga ar ôl trechu Hansa Rostock ddydd Sul. 4-0 y sgôr terfynol gyda James Lawrence yn chwarae’r chwarter awr olaf ar ôl dechrau ar y fainc.

Mae Ethan Ampadu yn chwarae’n rheolaidd yng nghanol cae Venezia ar hyn o bryd. Chwaraeodd mewn buddugoliaeth gartref dda yn erbyn Fiorentina nos Lun ac roedd yn y tîm eto ddydd Sadwrn ar gyfer y daith i Sassuolo. Dechreuodd pethau’n dda gyda’r Cymro yn dechrau’r symudiad a arweiniodd at y gôl agoriadol i’w dîm ond yn ôl y daeth Sassuolo i’w hennill hi o dair gôl i un yn y diwedd.

Ethan Ampadu

Taith Juventus i Milan i wynebu Inter yw’r gêm hwyr yn Serie A nos Sul. Mae Aaron Ramsey’n debygol o ddechrau ar y fainc, fel y gwnaeth yn erbyn Zenit yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos.