Mae un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn cydnabod mai “taflu’r dis” fydd y clwb wrth benodi’r rheolwr newydd.
Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn (Hydref 23) fod Mick McCarthy wedi gadael ar ôl y golled o 2-0 yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Dinas Caerdydd – eu chweched colled yn olynol ar eu tomen eu hunain a’r wythfed gêm yn olynol iddyn nhw ei cholli.
Roedd yr ysgrifen ar y mur ers tro, a doedd McCarthy ddim yn bresennol ar gyfer y gynhadledd i’r wasg cyn i’r clwb gyhoeddi ei fod e wedi gadael.
Mae Steve Morrison a Tom Ramasut wedi’u penodi i arwain y tîm dros dro, wrth i’r clwb chwilio am reolwr newydd.
‘Diffyg gweledigaeth, strategaeth a gwybodaeth’
Yn ôl Tim Hartley, mae’r bennod ddiweddaraf yn hanes y clwb yn “symptom unwaith yn rhagor o’r diffyg gweledigaeth, diffyg strategaeth ac yn wir, diffyg gwybodaeth am bêl-droed sydd yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd”.
“Y perchennog [Vincent Tan], y cadeirydd [Mehmet Dalman], y prif weithredwr [Ken Choo]… Oni bai am Steve Borley ar fwrdd y rheolwyr, does neb yn bobol bêl-droed,” meddai wrth golwg360.
“Ac felly, ry’n ni jyst fel petaen ni’n simsanu o un rheolwr i reolwr newydd heb unrhyw syniad o sut mae ffordd Caerdydd o chwarae pêl-droed, sut rydyn ni am adeiladu tîm a pha fath o chwaraewyr sydd angen eu prynu.
“Ar ben hyn, mae Vincent Tan yn dweud – ac roedd Mehmet Dalman wedi dweud wrthon ni fore Sadwrn – na fydd yna arian i atgyfnerthu’r tîm yn ystod y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr. Beth maen nhw’n disgwyl?
“Ac mae hi wir yn edrych nawr fel bod y tîm a’r clwb yn gallu disgyn wedyn i’r Adran Gyntaf, ac ry’n ni’n gwybod pa mor hir gymrith hi wedyn i esgyn a gwneud unrhyw ymgais i fynd ’nôl i’r Uwch Adran.
“Felly mae’n ddyddiau du ac mae ymadawiad Mick, os liciwch chi, yn dangos pa mor ddwfn ydy’r broblem yn y clwb.”
Beth aeth o’i le?
Cafodd Mick McCarthy ei benodi ym mis Ionawr ar gytundeb byr tan ddiwedd y tymor, ac fe wnaeth e greu argraff gyda rhediad o ddeg gêm gynghrair yn ddi-guro erbyn i’r clwb ymestyn ei gytundeb am ddwy flynedd ym mis Mawrth.
Roedd e wedi llwyddo i godi’r tîm allan o’r pymthegfed safle i fod yn y ras am ddyrchafiad o fewn dim o dro, cyn gorffen y tymor yn wythfed.
Ond dair gwaith yn unig maen nhw wedi ennill mewn 14 o gemau y tymor hwn, gan sgorio 12 gôl ac ildio 26.
Mae cryn feirnidaeth wedi bod fod McCarthy yn rhy negyddol, mae rhai wedi cwestiynu ei benderfyniadau tactegol.
Ond mae’r problemau’n mynd ymhellach y tu hwnt i hynny, yn ôl Tim Hartley.
“Dwi ddim yn meddwl, os edrychwch chi ar y perfformiadau, bod y chwaraewyr gyda ni,” meddai.
“Gyda McCarthy ei hun, roedd e wedi tanlinellu hynna, os liciwch chi, drwy chwarae pump centre-half ac yna’i newid e. Doedd y tîm ddim yn gwybod sut fath o gêm ro’n nhw i fod i’w chwarae.
“Roedd e’n gwadu ei fod e’n chwarae’r gêm hir ond dyna fel oedd e’n edrych i fi. Neu yfe bo nhw wedi colli hyder ynddyn nhw eu hunain i chwarae pêl-droed atyniadol?”
Colli chwaraewyr allweddol
Ac fe aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth pan gollodd yr Adar Gleision nifer o chwaraewyr allweddol.
“Wnaeth e adael i chwaraewr fel Harry Wilson i fynd. Wedyn wnaethon ni werthu Junior Hoilett,” meddai.
“Pwy oedd seren y gêm ddydd Sadwrn? Sol Bamba, chwaraewr roedden ni wedi gadael iddo fe fynd!
“Roedd fel petai pob dim o’i benderfyniadau wedi mynd â’i ben iddi.
“Yn yr wyth perfformiad diwetha’, roedden ni’n chwarae am ddeng munud a dim byd mwy.
“Felly mae’n rhaid i’r chwaraewyr ysgwyddo rhwyfaint o’r bai ond ar ddiwedd y dydd, McCarthy sy’n gorfod delio gyda fe, a wnaeth e ddim.
“Trueni, achos dwi’n meddwl fod e’n ddyn neis. Wnaeth e ddim ffurfio unrhyw fath o bond fel wnaeth Warnock gyda’r ffans ac roedd hwnna i’w weld ddydd Sadwrn hefyd.
“Felly mae dyddiau du o’n blaenau, mae gen i ofn.”
Problemau yn y clwb?
Os mai Vincent Tan, Ken Choo a Mehmet Dalman yw’r broblem, fel mae Tim Hartley yn ei awgrymu, a yw’n ffyddiog o ddyddiau gwell pe bai Tan yn gwerthu’r clwb a’r tri yn gadael yn y pen draw?
“Wnewn nhw ddim [gadael], na wnewn?” meddai.
“Dwi ddim yn gwybod am beth mae Vincent Tan yn aros. Mae’n amlwg fod dim diddordeb byw gyda fe yn y clwb.
“Dyw ei fuddsoddiad e ddim wedi talu ffordd. Mae angen iddo fe, fel mae’r Saeson yn dweud, “cut your losses” a gwerthu’r clwb i rywun sydd â diddordeb mewn gwella pethau ac i adeiladu rhywbeth sydd yn gallu cystadlu.”
Y bennod nesaf
Am y tro, mae’r tîm yn nwylo Steve Morison a Tom Ramasut, dau o hyfforddwyr y clwb a “dau ddyn pêl-droed drwyddi draw”, yn ôl Tim Hartley.
“Gewn ni weld beth ddaw,” meddai am y cyfnod nesaf o dan eu reolaeth dros dro, yn dilyn yr awgrym fod ganddyn nhw dair gêm cyn y bydd y clwb yn gwneud unrhyw benderfyniad am reolwr parhaol.
“Fyse fe’n grêt i feddwl eu bod nhw’n gallu camu i fyny ac mae’n naid ac yn gam enfawr i’w wneud i redeg clwb proffesiynol ac i reoli yn y Bencampwriaeth ond pob lwc iddyn nhw.
“Ac oni fydde fe’n grêt tasen nhw’n gallu troi hwn rownd a wynebu ail hanner y tymor mewn safle lot gwell a chwarae pêl-droed atyniadol, a’r chwaraewyr a’r cefnogwyr gyda’i gilydd yn un fel dydyn nhw heb fod ers cyhyd?”
Ond beth am y dyfodol tymor hir? Chris Wilder, cyn-reolwr Sheffield United yw’r ffefryn ar gyfer y swydd, ac mae rhai yn awgrymu hyd yn oed y gallai Neil Harris ddychwelyd.
“Ry’n ni wedi symud, on’d y’n ni, o reolwyr profiadol i rai sy’n newydd,” meddai wedyn am bolisi hap a damwain y clwb o benodi rheolwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
“Dwi ddim yn gwybod. Dyna pam fod angen, fel maen nhw’n dweud, hen ddyn gwallt gwyn pêl-droed ar fwrdd y clwb yn hytrach na chyfrifwyr o Malaysia.
“Mae angen rhywun sy’n deall y gêm ar y lefel yna sy’n gallu penodi rhywun a / neu Gyfarwyddwr Pêl-droed i’w helpu nhw.
“Ond mae angen arian ar gyfer y math yna o beth, ac mae Vincent Tan wedi dweud ei fod e’n anfodlon gwario, felly dwi ddim yn hyderus wrth edrych ymlaen.
“Mae sôn bod Neil Harris yn dal i gael ei dalu, dwi ddim yn siwr. Faswn i’n ei dderbyn e nôl? Wel, na. Gaethon ni ei wared e.
“A beth am foi Casnewydd, Mike Flynn? Ydy e’n gyfnod i arbrofi? Dwi ddim yn gwybod, a ninnau’n sefydlogi.
“Wilder, o bosib? Pwy a ŵyr? Dim ond hyn a hyn o reolwyr sydd yna, a hyn a hyn sydd â phrofiad, felly pwy bynnag gewn, taflu’r dis maen nhw, a chymryd cam i’r tywyllwch.”