Dydd Gwener (22 Hydref)

Y Fflint 1-1 Y Seintiau Newydd

Roedd hi’n ornest ar frig y tabl nos Wener (Hydref 22) wrth i’r Fflint groesawu’r Seintiau Newydd i Cae-y-Castell.

Sgoriodd yr amddiffynnwr Ryan Astle yn dilyn croesiad Ryan Brobbel ddwy funud cyn yr egwyl i roi’r Seintiau ar y blaen.

Ond aeth yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn yn yr ail hanner wedi i Leo Smith gael ei anfon o’r cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn mewn dau funud.

Daeth Mike Wilde o’r Fflint yn agos at gosbi ei hen dîm ymhellach ond fe darodd ei beniad y postyn, tra bod peniad Ben Nash wedi ei glirio oddi ar y llinell.

Ond doedd tîm Neil Gibson ddim am gael eu hatal, ac fe wnaeth Kai Edwards orfodi’r bêl dros y llinell i achub pwynt.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Y Seintiau yn aros ar frig y tabl tra bod y Fflint yn dal i fod yn ail.

Aberystwyth 0-3 Penybont

Mae Penybont yn bumed wedi’r fuddugoliaeth dros Aberystwyth, sydd wedi gostwng i’r ddau isaf.

James Waite roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 16 munud.

Fe wnaeth Keane Watts hi’n 2-0 pan fanteisiodd ar gliriad gwael gan gôl-geidwad Aberystwyth, Gregor Zabret.

Sgoriodd Waite ei ail o’r gêm – a’i bumed o’r tymor – i selio’r fuddugoliaeth i dîm Rhys Griffiths.

Doedd rheolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero, ddim yn ddyn hapus yn dilyn y canlyniad gan alw perfformiad ei chwaraewyr yn “embaras”.

Dydd Sadwrn, 23 Hydref

Y Bala 3-3 Y Barri

Roedd hi’n gêm eithriadol o gyffrous ar Faes Tegid wrth i’r Barri frwydro yn ôl i sicrhau pwynt.

Rhoddodd dwy gôl Lassana Mendes y tîm cartref ar y blaen yn gyfforddus ar ôl 24 munud cyn i Callum Sainty roi gobaith i’r ymwelwyr.

Llwyddodd Dave Edwards i adfer mantais dwy gôl y Bala bum munud cyn yr egwyl.

Fodd bynnag, doedd y Barri ddim ar roi’r ffidil yn y to.

Fe wnaeth Kayne McLaggon daro’n ôl a sgorio gôl i’r Barri, cyn sgorio ei ail o’r smotyn gyda phedwar munud yn weddill i unioni’r sgôr.

Met Caerdydd 1-1 Cei Connah

Parhau wnaeth rhediad Cei Connah heb fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn deg dyn Met Caerdydd.

Dyw’r pencampwyr heb ennill mewn wyth gêm yn y gynghrair.

Rhoddodd Jamie Insall y Nomads ar y blaen wedi 26 munud, ac roedd hi’n edrych yn bur debyg y gallai’r tîm oddi cartref sicrhau’r trphwynt pan gafodd Kyle McCarthy ei anfon o’r cae i Met Caerdydd.

Ond sgoriodd Met Caerdydd yn hwyr i unioni’r sgôr.

Mae’r canlyniad yn gadael Cei Connah un pwynt uwch ben y ddau isaf.

Hwlffordd 2-1 Derwyddon Cefn

Mae Derwyddon Cefn yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn ar ôl colli o 2-1 oddi cartref yn erbyn Hwlffordd.

Roedd y ddau dîm wedi dechrau’r penwythnos yn safleoedd y gwymp, ond mae’r canlyniad yn golygu bod Hwlffordd yn codi i’r nawfed safle.

Y Derwyddon aeth ar y blaen gyda gôl gan Emmanuel Agyemang, ond fe wnaeth dwy gôl hwyr gan Jack Wilson sicrhau’r pwyntiau i’r tîm cartref.

Er mai dim ond deg gêm sydd wedi cael eu chwarae’r tymor hwn, mae’n anodd gweld sut y gall Derwyddon Cefn – sydd â dim ond un pwynt – osgoi’r gwymp.

Y Drenewydd 1-0 Caernarfon

Parhau wnaeth rhediad da’r Drenewydd yn erbyn Caernarfon, gyda gôl Lifumpa Mwandwe yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau.

Mae’r Drenewydd wedi ennill pedair gêm yn olynol a bellach wedi codi i’r trydydd safle, gyda dim ond gwahaniaeth goliau’n eu gwahanu nhw a’r Fflint.

Ar y llaw arall, mae’r canlyniad yn golygu bod Caernarfon yn disgyn i’r seithfed safle.

Y Tabl