Mae llys wedi clywed y byddai asiant pêl-droed oedd yn un o drefnwyr yr hediad oedd yn cludo Emiliano Sala pan blymiodd yr awyren i’r ddaear wedi bwrw ymlaen â’r daith hyd yn oed pe bai’n gwybod nad oedd y peilot yn gymwys i hedfan.
Mae David Henderson, 67, yn wynebu cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd o beryglu diogelwch awyren ac mae’n mynnu bod gan yr asiant Willie McKay “obsesiwn” â sicrhau peilot i gludo Sala o Gaerdydd i Nantes yn Llydaw.
Bu farw’r Archentwr Sala, 28, a’r peilot David Ibbotson, 59, pan blymiodd yr awyren i’r Sianel fis Ionawr 2019.
Roedd Sala newydd sicrhau trosglwyddiad o Nantes i Gaerdydd, ac roedd e’n teithio o un clwb i’r llall adeg ei farwolaeth.
Cefndir
Mae’r rheithgor yn y llys eisoes wedi clywed bod gan Willie McKay a David Henderson berthynas broffesiynol, a bod McKay wedi cysylltu â Henderson i logi awyren.
Doedd Henderson, sy’n beilot cymwys, ddim ar gael i hedfan yr awyren gan ei fod e ar ei wyliau yn Ffrainc.
Doedd gan David Ibbotson, y peilot a gafodd ei gyflogi i hedfan yr awyren, ddim trwydded peilot gyfredol a doedd ganddo fe mo’r hawl i hedfan yr awyren yn y nos.
Y gwrandawiad
Wrth holi ei gleient David Henderson, gofynnodd cyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad a oedd e’n credu y byddai McKay yn poeni pe bai Henderson wedi dweud wrtho am ddiffyg cymwysterau’r peilot David Ibbotson.
“Roedd ei obsesiwn ynghylch cyrraedd lle’r oedd e eisiau mynd,” meddai.
“Dw i ddim yn gwybod a fyddai ots gyda fe, ond fel dw i’n ei ddweud, ei obsesiwn oedd cael peilot.
“Dw i’n credu y byddai wedi bwrw ymlaen gyda’r hediad beth bynnag.”
Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, gofynnodd yr erlynydd a oedd Henderson yn credu bod gan McKay a Sala yr hawl i wybod am ddiffyg cymwysterau’r peilot.
Ac fe gyhuddodd e Henderson o wneud trefniadau “cowboi” ar ôl iddo gyfaddef nad oedd e wedi cadw cofnod o wybodaeth sylfaenol am y peilotiaid roedd yn eu cyflogi.
Fe wnaeth yr erlynydd gyhuddo Henderson o ymddwyn yn “ddiofal ac yn esgeulus” wrth adael i David Ibbotson hedfan yr awyren, ond dywedodd ei fod e’n ymddiried yn y peilot i beidio â hedfan heb gymwysterau.
Ond daeth yr heddlu o hyd i negeseuon lu lle’r oedd Henderson yn gofyn i bobol “gadw’n dawel” am y sefyllfa oherwydd y canlyniadau posib pe bai ymchwiliad yn dod i wybod nad oedd y peilot yn gymwys.
Cyfaddefodd Henderson fod “elfen o wirionedd” yn yr honiadau hynny.
Mae Henderson yn cael ei ystyried yn weithredwr yr awyren gan mai fe oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r cerbyd a’i logi i gleientiaid ar ran y perchennog Fay Keely.
Mae e wedi pledio’n euog i gyhuddiad arall o gludo teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.
Mae’r achos yn parhau.