Mae’n debygol na fydd Liam Williams ar gael wrth i dîm rygbi Cymru herio Seland Newydd ddydd Sadwrn (Hydref 30).

Cafodd e lawdriniaeth pendics yn gynharach y mis yma.

Ac yntau wedi ennill 71 o gapiau rhyngwladol, mae’n un o nifer o chwaraewyr profiadol sy’n debygol o fod allan ar gyfer y gêm fawr.

Er ei fod e’n ymarfer gyda’r garfan ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y bydd e wedi gwella’n ddigonol mewn da bryd.

Mae Cymru eisoes heb chwaraewyr sy’n chwarae yn Lloegr, gan gynnwys Dan Biggar, Taulupe Faletau a Louis Rees-Zammit gan fod y gêm yn cael ei chynnal y tu allan i’r ffenest ryngwladol swyddogol ar gyfer rhyddhau chwaraewyr.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd wedi’u hanafu mae George North, Josh Navidi a Justin Tipuric.

Daeth cadarnhad bellach fod Alex Cuthbert wedi’i alw i’r garfan.

Dewisiadau anodd

Safleoedd y maswr, canolwr a blaenasgellwr agored sy’n debygol o fod yn ben tost i’r prif hyfforddwr Wayne Pivac.

Daw hyn wrth i Gymru geisio curo’r Crysau Duon am y tro cyntaf ers 1953.

Maen nhw wedi colli’r 31 gêm brawf ddiwethaf yn eu herbyn nhw, gydag 16 ohonyn nhw yng Nghaerdydd.

Yn y canol, mae’n debygol y bydd dau allan o Jonathan Davies, Willis Halaholo a Johnny Williams yn chwarae, tra ei bod hi’n ddewis rhwng Rhys Priestland a Gareth Anscombe yn safle’r maswr.

Dydy Anscombe ddim wedi chwarae dros Gymru ers iddo anafu ei ben-glin ym mis Awst 2019, tra nad yw Priestland wedi chwarae dros ei wlad ers pedair blynedd, a hynny yn erbyn y Crysau Duon.

Ellis Jenkins a Taine Basham sy’n debygol o gystadlu am y crys rhif saith yn y rheng ôl.